Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 2 beibl.net 2015 (BNET)

Yn fyw drwy berthyn i'r Meseia

1. Ar un adeg roeddech chi'n farw'n ysbrydol – am eich bod chi wedi gwrthryfela a phechu yn erbyn Duw.

2. Roeddech chi'n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi'n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr – sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy'n anufudd i Dduw.

3. Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni'n byw i blesio'r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, a roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw.

4. Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi'n caru ni gymaint!

5. Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda'r Meseia – ie, ni oedd yn farw'n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy'r unig reswm pam dŷn ni wedi'n hachub!

6. Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda'r Meseia Iesu a'n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol – dŷn ni wedi'n huno gydag e!

7. Felly bydd haelioni Duw i'w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i'r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu.

8. Haelioni Duw ydy'r unig beth sy'n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu'r peth. Anrheg Duw ydy e!

9. Dych chi'n gallu gwneud dim i'w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio.

10. Duw sydd wedi'n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi ein creu mewn perthynas â'r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi eu trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud.

Un yn ein perthynas â'r Meseia

11. Mae'n dda i chi gofio eich bod chi sydd o genhedloedd eraill yn arfer bod ‛ar y tu allan‛. ‛Y dienwaediad‛ oeddech chi'n cael eich galw gan ‛bobl yr enwaediad‛ – sef yr Iddewon sy'n cadw'r ddefod o dorri'r blaengroen ar fechgyn i ddangos eu bod nhw'n perthyn i Dduw.

12. Cofiwch eich bod chi bryd hynny yn gwybod dim am y Meseia. Doeddech chi ddim yn perthyn i bobl Dduw, nac yn gwybod dim am yr addewid a'r ymrwymiad wnaeth Duw. Roeddech chi'n byw yn y byd heb unrhyw obaith a heb berthynas gyda Duw.

13. Ond bellach, dych chi wedi cael eich uno gyda'r Meseia Iesu! Dych chi, oedd mor bell i ffwrdd ar un adeg, wedi cael dod i berthyn, a hynny am fod y Meseia wedi gwaedu a marw ar y groes.

14. Ac ydy, mae Iesu'n gwneud y berthynas rhyngon ni a'n gilydd yn iawn hefyd – ni'r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi'n huno ni gyda'n gilydd. Mae'r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo!

15. Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda'r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a'i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â'n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o'r ddau grŵp o bobl.

16. Mae'r ddau yn dod yn un corff sy'n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â'r casineb rhyngon ni i ben.

17. Daeth i gyhoeddi'r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‛bell oddi wrtho‛, a heddwch i ni'r Iddewon oedd yn ‛agos‛.

18. Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia mae'r ddau grŵp gyda'i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy'r un Ysbryd Glân.

19. Felly dych chi o'r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nac yn bobl sydd ‛y tu allan‛. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi'n aelodau o'i deulu!

20. Dych chi'n rhan o'r un adeilad! Dŷn ni'r cynrychiolwyr personol ddewisodd e, a'r proffwydi, wedi gosod y sylfeini, a'r Meseia Iesu ei hun ydy'r maen clo.

21. Dŷn ni i gyd yn cael ein hadeiladu a'n cysylltu â'n gilydd i wneud teml sydd wedi ei chysegru i'r Arglwydd.

22. A dych chi, y bobl o genhedloedd eraill sy'n perthyn iddo, yn rhan o'r un adeilad hwnnw lle mae Duw yn byw trwy ei Ysbryd.