Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 3:14-22 beibl.net 2015 (BNET)

14. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Laodicea:‘Dyma beth mae'r Amen yn ei ddweud, y tyst ffyddlon, ffynhonnell cread Duw.

15. Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Dwyt ti ddim yn oer nac yn boeth! Byddwn i'n hoffi i ti fod y naill neu'r llall!

16. Ond gan dy fod yn llugoer, bydda i'n dy chwydu di allan.

17. Rwyt ti'n dweud, “Dw i'n gyfoethog; dw i wedi ennill cymaint o gyfoeth does gen i angen dim byd.” Dwyt ti ddim yn gweld mor druenus rwyt ti go iawn. Druan ohonot ti! Rwyt ti'n dlawd yn ddall ac yn noeth!

18. Dw i'n dy gynghori di i brynu aur gen i, aur wedi ei goethi trwy dân. Byddi di'n gyfoethog wedyn! A phryna ddillad gwyn i'w gwisgo, wedyn fydd dim rhaid i ti gywilyddio am dy fod yn noeth. A gelli brynu eli i'r llygaid hefyd, er mwyn i ti allu gweld eto!

19. Dw i'n ceryddu a disgyblu pawb dw i'n eu caru. Felly bwrw iddi o ddifri, a thro dy gefn ar bechod.

20. Edrych! Dw i yma! Dw i'n sefyll wrth y drws ac yn curo. Os bydd rhywun yn fy nghlywed i'n galw ac yn dod i agor y drws, dof i mewn i rannu pryd o fwyd gyda nhw.

21. Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael hawl i deyrnasu gyda mi ar fy ngorsedd, yn union fel wnes i ennill y frwydr, a theyrnasu gyda fy Nhad ar ei orsedd e.

22. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 3