Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 2:3-16 beibl.net 2015 (BNET)

3. Rwyt ti wedi dal ati ac wedi dioddef caledi er fy mwyn i, a heb flino.

4. Ond mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Dwyt ti ddim yn fy ngharu i fel roeddet ti ar y cychwyn.

5. Edrych mor bell rwyt ti wedi syrthio! Tro yn ôl ata i eto, a gwna beth roeddet ti'n ei wneud ar y cychwyn. Os ddoi di ddim yn ôl ata i, dof fi atat ti a chymryd dy ganhwyllbren di i ffwrdd.

6. Ond mae hyn o dy blaid di: Rwyt ti, fel finnau, yn casáu beth mae'r Nicolaiaid yn ei wneud.

7. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn cael bwyta o goeden y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.’

8. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Smyrna:‘Dyma beth mae'r Cyntaf a'r Olaf yn ei ddweud, yr un fuodd farw a dod yn ôl yn fyw:

9. Dw i'n gwybod dy fod ti'n dioddef, a dy fod yn dlawd (er, rwyt ti'n gyfoethog go iawn!) Dw i'n gwybod hefyd dy fod ti'n cael dy sarhau gan y rhai sy'n honni bod yn bobl Dduw ond sydd ddim go iawn. Synagog Satan ydyn nhw!

10. Peidiwch bod ofn beth dych chi ar fin ei ddioddef. Galla i ddweud wrthoch chi fod y diafol yn mynd i brofi ffydd rhai ohonoch chi trwy eich taflu i'r carchar. Bydd pethau'n galed arnoch chi am gyfnod byr. Arhoswch yn ffyddlon i Dduw, hyd yn oed os bydd rhaid i chi farw. Wedyn cewch chi goron y bywyd yn wobr gen i.

11. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Fydd y rhai sy'n ennill y frwydr ddim yn cael unrhyw niwed gan beth sy'n cael ei alw yn "ail farwolaeth".’

12. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Pergamus:‘Dyma beth mae'r un sydd â'r cleddyf miniog ganddo yn ei ddweud:

13. Dw i'n gwybod dy fod ti'n byw yn y ddinas lle mae gorsedd Satan. Ond rwyt ti wedi aros yn ffyddlon i mi. Wnest ti ddim gwadu dy fod yn credu ynof fi, hyd yn oed pan gafodd Antipas ei ladd lle mae Satan yn byw. Roedd e'n ffyddlon, ac yn dweud wrth bawb amdana i.

14. Er hynny, mae gen i bethau yn dy erbyn: Mae rhai pobl acw yn gwneud beth oedd Balaam yn ei ddysgu. Balaam ddysgodd Balac i ddenu pobl Israel i bechu. Gwnaeth iddyn nhw fwyta bwyd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau a phechu'n rhywiol.

15. A'r un fath, mae yna rai ohonoch chi hefyd sy'n dilyn beth mae'r Nicolaiaid yn ei ddysgu.

16. Tro dy gefn ar y pechodau hyn! Os gwnei di ddim, bydda i'n dod yn sydyn ac yn ymladd yn eu herbyn nhw gyda'r cleddyf sydd yn fy ngheg.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 2