Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 2:18-29 beibl.net 2015 (BNET)

18. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Thyatira:‘Dyma beth mae Mab Duw yn ei ddweud, sef yr Un sydd â sbarc fel fflamau o dân yn ei lygaid, a'i draed yn gloywi fel efydd:

19. Dw i'n gwybod am bopeth wyt ti'n ei wneud – am dy gariad, dy ffyddlondeb, dy wasanaeth a'th allu i ddal ati; a dw i'n gweld dy fod yn gwneud mwy o dda nawr nag oeddet ti ar y cychwyn.

20. Er hynny, mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Rwyt ti'n goddef y wraig yna, y ‛Jesebel‛ sy'n galw ei hun yn broffwydes. Mae hi'n dysgu pethau sy'n camarwain y rhai sy'n fy ngwasanaethu i. Mae hi'n eu hannog nhw i bechu'n rhywiol a bwyta bwyd sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau.

21. Dw i wedi rhoi cyfle iddi hi droi cefn ar y drwg, ond mae hi'n gwrthod.

22. Felly dw i'n mynd i wneud iddi ddioddef o afiechyd poenus, a bydd y rhai sy'n godinebu gyda hi yn dioddef hefyd os fyddan nhw ddim yn stopio gwneud beth mae hi'n ei ddweud.

23. Bydda i'n lladd ei dilynwyr hi, ac wedyn bydd yr eglwysi yn gwybod mai fi ydy'r Un sy'n gweld beth sydd yng nghalonnau a meddyliau pobl. Bydd pob un ohonoch chi yn cael beth mae'n ei haeddu.

24. Am y gweddill ohonoch chi yn Thyatira, sef y rhai sydd heb dderbyn beth mae hi'n ei ddysgu (sef ‛cyfrinachau dirgel Satan‛), wna i ddim rhoi dim mwy o bwysau arnoch chi.

25. Ond daliwch afael yn beth sydd gynnoch chi nes i mi ddod yn ôl.

26. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr, ac yn dilyn fy esiampl i i'r diwedd un, yn cael awdurdod dros y cenhedloedd –

27. “Bydd yn teyrnasu arnyn nhw gyda theyrnwialen haearn; ac yn eu malu'n ddarnau fel malu llestri pridd.” Bydd ganddyn nhw yr un awdurdod ag a ges i gan fy Nhad.

28. A bydda i'n rhoi Seren y Bore iddyn nhw hefyd.

29. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 2