Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 2:10-21 beibl.net 2015 (BNET)

10. Peidiwch bod ofn beth dych chi ar fin ei ddioddef. Galla i ddweud wrthoch chi fod y diafol yn mynd i brofi ffydd rhai ohonoch chi trwy eich taflu i'r carchar. Bydd pethau'n galed arnoch chi am gyfnod byr. Arhoswch yn ffyddlon i Dduw, hyd yn oed os bydd rhaid i chi farw. Wedyn cewch chi goron y bywyd yn wobr gen i.

11. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Fydd y rhai sy'n ennill y frwydr ddim yn cael unrhyw niwed gan beth sy'n cael ei alw yn "ail farwolaeth".’

12. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Pergamus:‘Dyma beth mae'r un sydd â'r cleddyf miniog ganddo yn ei ddweud:

13. Dw i'n gwybod dy fod ti'n byw yn y ddinas lle mae gorsedd Satan. Ond rwyt ti wedi aros yn ffyddlon i mi. Wnest ti ddim gwadu dy fod yn credu ynof fi, hyd yn oed pan gafodd Antipas ei ladd lle mae Satan yn byw. Roedd e'n ffyddlon, ac yn dweud wrth bawb amdana i.

14. Er hynny, mae gen i bethau yn dy erbyn: Mae rhai pobl acw yn gwneud beth oedd Balaam yn ei ddysgu. Balaam ddysgodd Balac i ddenu pobl Israel i bechu. Gwnaeth iddyn nhw fwyta bwyd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau a phechu'n rhywiol.

15. A'r un fath, mae yna rai ohonoch chi hefyd sy'n dilyn beth mae'r Nicolaiaid yn ei ddysgu.

16. Tro dy gefn ar y pechodau hyn! Os gwnei di ddim, bydda i'n dod yn sydyn ac yn ymladd yn eu herbyn nhw gyda'r cleddyf sydd yn fy ngheg.

17. Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn cael bwyta'r manna sydd wedi ei gadw o'r golwg. Bydda i hefyd yn rhoi carreg wen i bob un ohonyn nhw. Bydd enw newydd wedi ei ysgrifennu ar y garreg, a neb yn gwybod yr enw ond y sawl sy'n derbyn y garreg.’

18. “Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Thyatira:‘Dyma beth mae Mab Duw yn ei ddweud, sef yr Un sydd â sbarc fel fflamau o dân yn ei lygaid, a'i draed yn gloywi fel efydd:

19. Dw i'n gwybod am bopeth wyt ti'n ei wneud – am dy gariad, dy ffyddlondeb, dy wasanaeth a'th allu i ddal ati; a dw i'n gweld dy fod yn gwneud mwy o dda nawr nag oeddet ti ar y cychwyn.

20. Er hynny, mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Rwyt ti'n goddef y wraig yna, y ‛Jesebel‛ sy'n galw ei hun yn broffwydes. Mae hi'n dysgu pethau sy'n camarwain y rhai sy'n fy ngwasanaethu i. Mae hi'n eu hannog nhw i bechu'n rhywiol a bwyta bwyd sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau.

21. Dw i wedi rhoi cyfle iddi hi droi cefn ar y drwg, ond mae hi'n gwrthod.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 2