Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 12:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma arwydd rhyfeddol yn ymddangos yn y nefoedd: gwraig wedi ei gwisgo â'r haul. Roedd y lleuad dan ei thraed ac roedd coron o saith seren ar ei phen.

2. Roedd y wraig yn feichiog ac yn gweiddi mewn poen am fod y plentyn wedi dechrau cael ei eni.

3. A dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a deg corn, a saith coron ar ei phennau.

4. Dyma gynffon y ddraig yn ysgubo un rhan o dair o'r sêr o'r awyr ac yn eu taflu i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin geni plentyn, yn barod i lyncu ei phlentyn yr eiliad y byddai yn cael ei eni.

5. Cafodd y wraig fab – bachgen fydd yn teyrnasu dros yr holl genhedloedd gyda theyrnwialen haearn. Dyma'r plentyn yn cael ei gipio i fyny at Dduw ac at ei orsedd.

6. Dyma'r wraig yn dianc i'r anialwch i le oedd Duw wedi ei baratoi iddi, lle byddai hi'n ddiogel am fil dau gant chwe deg diwrnod.

7. Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael a'i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig. Roedd y ddraig a'i hangylion yn ymladd yn ôl,

8. ond doedd hi ddim digon cryf, a dyma nhw'n colli eu lle yn y nefoedd.

9. Dyma'r ddraig fawr yn cael ei hyrddio i lawr (sef yr hen sarff sy'n cael ei galw ‛y diafol‛ a ‛Satan‛ ac sy'n twyllo'r byd i gyd). Cafodd ei hyrddio i lawr i'r ddaear, a'i hangylion gyda hi.

10. Yna clywais lais uchel yn y nefoedd yn dweud:“Mae Duw wedi achub, cymryd y grym, a dod i deyrnasu,ac mae'r awdurdod gan ei Feseia.Oherwydd mae cyhuddwr y brodyr a'r chwiorydd(yr un oedd yn eu cyhuddo nhw o flaen Duw ddydd a nos),wedi cael ei hyrddio i lawr.

11. Maen nhw wedi ennill y frwydram fod yr Oen wedi marw'n aberth,ac am iddyn nhw dystio i'r neges.Dim ceisio amddiffyn eu hunain wnaeth y rhain –doedd ganddyn nhw ddim ofn marw.

12. Felly bydd lawen nefoedd!Llawenhewch bawb sy'n byw yno!Ond gwae chi'r ddaear a'r môr,oherwydd mae'r diafol wedi dod i lawr atat,ac wedi gwylltio'n gandryll,am ei fod yn gwybod mai ychydig amser sydd ganddo ar ôl.”

13. Pan sylweddolodd y ddraig ei bod wedi cael ei hyrddio i'r ddaear dyma hi'n erlid ar ôl y wraig oedd wedi rhoi genedigaeth i'r bachgen.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 12