Hen Destament

Testament Newydd

Actau 9:28-40 beibl.net 2015 (BNET)

28. Felly cafodd ei dderbyn gan yr apostolion, ac roedd yn mynd o gwmpas Jerwsalem yn gwbl agored yn dweud wrth bawb am yr Arglwydd Iesu.

29. Buodd yn siarad ac yn dadlau gyda rhyw Iddewon Groegaidd, ond y canlyniad oedd iddyn nhw benderfynu ei ladd.

30. Pan glywodd y credinwyr am y peth, dyma nhw'n mynd â Saul i Cesarea, ac yna ei anfon yn ei flaen i Tarsus lle roedd ei gartref.

31. Ar ôl hyn cafodd yr eglwys yn Jwdea, Galilea a Samaria gyfnod o dawelwch a llwyddiant – roedd ffydd y credinwyr yn cryfhau ac roedd eu niferoedd yn tyfu hefyd. Roedden nhw'n byw mewn ffordd oedd yn dangos eu bod yn ofni'r Arglwydd, a'r Ysbryd Glân yn eu hannog yn eu blaenau.

32. Roedd Pedr yn teithio o gwmpas y wlad, ac aeth i ymweld â'r Cristnogion oedd yn Lyda.

33. Yno daeth ar draws dyn o'r enw Aeneas, oedd wedi ei barlysu ac wedi bod yn gaeth i'w wely ers wyth mlynedd.

34. Dyma Pedr yn dweud wrtho, “Aeneas, mae Iesu y Meseia am dy iacháu di. Cod ar dy draed a phlyga dy fatras.” Cafodd Aeneas ei iacháu ar unwaith.

35. Dyma pawb oedd yn byw yn Lyda a Sharon yn troi at yr Arglwydd pan welon nhw Aeneas yn cerdded.

36. Yna yn Jopa, roedd disgybl o'r enw Tabitha (Dorcas fyddai ei henw yn yr iaith Roeg). Roedd hi bob amser wedi gwneud daioni a helpu pobl dlawd,

37. ond tua'r adeg yna aeth yn glaf, a buodd farw. Cafodd ei chorff ei olchi a'i osod i orwedd mewn ystafell i fyny'r grisiau.

38. Pan glywodd y credinwyr fod Pedr yn Lyda (sydd ddim yn bell iawn o Jopa), dyma nhw'n anfon dau ddyn ato i ofyn iddo, “Plîs, tyrd ar unwaith!”

39. Aeth Pedr gyda nhw, ac wedi iddo gyrraedd dyma fynd ag e i fyny'r grisiau i'r ystafell. Roedd yr ystafell yn llawn o wragedd gweddwon yn eu dagrau yn dangos iddo'r mentyll a'r dillad eraill roedd Dorcas wedi eu gwneud iddyn nhw pan roedd hi'n dal yn fyw.

40. Dyma Pedr yn anfon pawb allan o'r ystafell, ac yna aeth ar ei liniau a gweddïo. Yna trodd at gorff y wraig oedd wedi marw, a dweud wrthi, “Tabitha, cod ar dy draed.” Agorodd ei llygaid! A phan welodd Pedr eisteddodd i fyny.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 9