Ond dyma Barnabas yn ei dderbyn, ac yn mynd ag e at yr apostolion. Dwedodd wrthyn nhw sut gwelodd Saul yr Arglwydd pan roedd yn teithio i Damascus, a beth oedd yr Arglwydd wedi ei ddweud wrtho. Hefyd dwedodd ei fod wedi pregethu am Iesu yn gwbl ddi-ofn pan oedd yn Damascus.