Hen Destament

Testament Newydd

Actau 9:21-28 beibl.net 2015 (BNET)

21. Roedd pawb a'i clywodd wedi eu syfrdanu. “Onid dyma'r dyn wnaeth achosi'r fath drafferth i'r rhai sy'n dilyn yr Iesu yma yn Jerwsalem? Roedden ni'n meddwl ei fod wedi dod yma ar ran y prif offeiriaid i arestio'r bobl hynny a'u rhoi yn y carchar.”

22. Roedd pregethu Saul yn mynd yn gryfach ac yn gryfach bob dydd, a doedd yr Iddewon yn Damascus ddim yn gallu dadlau yn ei erbyn wrth iddo brofi mai Iesu ydy'r Meseia.

23. Felly ar ôl peth amser dyma'r arweinwyr Iddewig yn cynllwynio i'w ladd.

24. Ond clywodd Saul am eu bwriad, a'r ffaith eu bod yn gwylio giatiau'r ddinas yn ofalus ddydd a nos er mwyn ei ddal a'i lofruddio.

25. Felly dyma rhai o'r credinwyr yn ei ollwng i lawr mewn basged drwy agoriad yn wal y ddinas.

26. Pan gyrhaeddodd Saul Jerwsalem, ceisiodd fynd at y credinwyr yno, ond roedd ganddyn nhw ei ofn. Doedden nhw ddim yn credu ei fod wedi dod yn Gristion go iawn.

27. Ond dyma Barnabas yn ei dderbyn, ac yn mynd ag e at yr apostolion. Dwedodd wrthyn nhw sut gwelodd Saul yr Arglwydd pan roedd yn teithio i Damascus, a beth oedd yr Arglwydd wedi ei ddweud wrtho. Hefyd dwedodd ei fod wedi pregethu am Iesu yn gwbl ddi-ofn pan oedd yn Damascus.

28. Felly cafodd ei dderbyn gan yr apostolion, ac roedd yn mynd o gwmpas Jerwsalem yn gwbl agored yn dweud wrth bawb am yr Arglwydd Iesu.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 9