Hen Destament

Testament Newydd

Actau 6:7-15 beibl.net 2015 (BNET)

7. Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu'n gyflym. Roedd nifer fawr o'r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd.

8. Roedd Steffan yn ddyn oedd â ffafr Duw arno a nerth Duw ar waith yn ei fywyd. Roedd yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl oedd yn dangos fod Duw gydag e.

9. Ond dyma rhai o aelodau'r synagog oedd yn cael ei galw'n ‛Synagog y Dynion Rhydd‛ yn codi yn ei erbyn. Iddewon o Cyrene ac Alecsandria oedden nhw, yn ogystal â rhai o Cilicia ac o dalaith Asia. Dyma nhw'n dechrau dadlau gyda Steffan,

10. ond doedden nhw ddim yn gallu ateb ei ddadleuon. Roedd mor ddoeth, ac roedd yr Ysbryd Glân yn amlwg yn siarad trwyddo.

11. Felly dyma nhw'n defnyddio tacteg wahanol, ac yn perswadio rhyw ddynion i ddweud celwydd amdano: “Dŷn ni wedi clywed Steffan yn dweud pethau cableddus am Moses ac am Dduw.”

12. Wrth gwrs achosodd hyn stŵr ymhlith y bobl a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Dyma nhw'n arestio Steffan ac roedd rhaid iddo ymddangos o flaen y Sanhedrin.

13. Dyma rai yn dweud celwydd wrth roi tystiolaeth ar lw: “Mae'r dyn yma o hyd ac o hyd yn dweud pethau yn erbyn y deml ac yn erbyn Cyfraith Moses.

14. Dŷn ni wedi ei glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio'r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.”

15. Dyma pob un o aelodau'r Sanhedrin yn troi i syllu ar Steffan. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel wyneb angel.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 6