Hen Destament

Testament Newydd

Actau 17:19-34 beibl.net 2015 (BNET)

19. Felly dyma nhw'n mynd â Paul i gyfarfod o gyngor yr Areopagus. “Dywed beth ydy'r grefydd newydd yma rwyt ti'n sôn amdani,” medden nhw.

20. “Mae gen ti ryw syniadau sy'n swnio'n od iawn i ni, a dŷn ni eisiau gwybod beth ydy ystyr y cwbl.”

21. (Roedd yr Atheniaid a'r ymwelwyr oedd yn byw yno yn treulio'u hamser hamdden i gyd yn trafod ac yn gwrando pob syniad newydd!)

22. Dyma Paul yn sefyll ar ei draed o flaen cyngor yr Areopagus, a'u hannerch fel hyn: “Bobl Athen! Dw i'n gweld tystiolaeth ym mhobman eich bod chi'n bobl grefyddol iawn.

23. Dw i wedi bod yn cerdded o gwmpas yn edrych yn ofalus ar yr hyn dych chi'n ei addoli. Yng nghanol y cwbl des i o hyd i un allor oedd â'r geiriau yma wedi eu cerfio arni: I'R DUW ANHYSBYS. Dyma'r Duw dw i'n mynd i ddweud wrthoch chi amdano – yr un dych chi'n ei addoli ond ddim yn ei nabod.

24. “Dyma'r Duw wnaeth greu'r byd a phopeth sydd ynddo. Mae'n Arglwydd ar y nefoedd a'r ddaear. Dydy e ddim yn byw mewn temlau sydd wedi eu hadeiladu gan bobl,

25. a dydy pobl ddim yn gallu rhoi unrhyw beth iddo – does dim byd sydd arno'i angen! Y Duw yma sy'n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb.

26. Fe ydy'r Duw wnaeth greu y dyn cyntaf, a gwneud ohono yr holl genhedloedd gwahanol sy'n byw drwy'r byd i gyd. Mae'n penderfynu am faint fydd y cenhedloedd yna'n bodoli, a lle'n union mae eu ffiniau daearyddol.

27. Gwnaeth hyn i gyd er mwyn iddyn nhw geisio dod o hyd iddo, ac estyn allan a'i gael. A dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd.

28. ‘Dŷn ni'n byw, yn symud ac yn bod ynddo fe,’ ydy geiriau un o'ch beirdd chi. Ac mae un arall yn dweud, ‘Ni yw ei epil.’

29. “Felly, os ydyn ni'n blant Duw, ddylen ni ddim meddwl amdano fel rhyw ddelw o aur neu arian neu faen – sef dim byd ond cerflun wedi ei ddylunio a'i greu gan grefftwr!

30. Ydy, mae Duw wedi diystyru'r fath ddwli yn y gorffennol, ond bellach mae'n galw ar bobl ym mhobman i droi ato.

31. Mae e wedi dewis diwrnod pan fydd y byd i gyd yn cael ei farnu. Bydd y farn yna'n gwbl deg. Mae wedi dewis dyn i wneud y barnu, ac mae wedi dangos yn glir ei fod yn mynd i wneud hyn drwy ddod â'r dyn hwnnw yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.”

32. Pan glywon nhw am y syniad o rywun yn dod yn ôl yn fyw ar ôl marw, dyma rhai ohonyn nhw yn dechrau gwneud sbort, ond meddai rhai eraill, “Fasen ni'n hoffi dy glywed di'n siarad am y pwnc yma rywbryd eto.”

33. Felly dyma Paul yn mynd allan o'r cyfarfod.

34. Ond roedd rhai wedi credu beth roedd Paul yn ei ddweud a dechrau ei ddilyn. Roedd hyd yn oed un oedd yn aelod o gyngor yr Areopagus, sef Dionysiws; a gwraig o'r enw Damaris, a nifer o bobl eraill hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 17