Hen Destament

Testament Newydd

Actau 17:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma nhw'n teithio drwy drefi Amffipolis ac Apolonia a chyrraedd Thesalonica, lle roedd synagog Iddewig.

2. Aeth Paul i'r cyfarfodydd yn y synagog yn ôl ei arfer, ac am dri Saboth yn olynol buodd yn trafod yr ysgrifau sanctaidd gyda'r bobl yno.

3. Dangosodd iddyn nhw'n glir a phrofi fod rhaid i'r Meseia ddioddef, a dod yn ôl yn fyw ar ôl marw. “Yr Iesu dw i'n sôn amdano ydy'r Meseia,” meddai wrthyn nhw.

4. Cafodd rhai o'r Iddewon oedd yno'n gwrando eu perswadio, a dyma nhw'n ymuno â Paul a Silas. Daeth nifer fawr o'r Groegiaid oedd yn addoli Duw i gredu hefyd, a sawl un o wragedd pwysig y dre.

5. Ond roedd arweinwyr yr Iddewon yn genfigennus; felly dyma nhw'n casglu criw o ddynion oedd yn loetran yn sgwâr y farchnad a'u cael i ddechrau codi twrw yn y ddinas. Dyma nhw'n mynd i dŷ Jason i chwilio am Paul a Silas er mwyn dod â nhw allan at y dyrfa.

6. Ond ar ôl methu dod o hyd iddyn nhw, dyma nhw'n llusgo Jason a rhai o'r Cristnogion eraill o flaen swyddogion y ddinas. Roedden nhw'n gweiddi: “Mae'r dynion sydd wedi bod yn codi twrw ar hyd a lled y byd wedi dod i'n dinas ni,

7. ac mae Jason wedi eu croesawu nhw i'w dŷ! Maen nhw'n herio Cesar, trwy ddweud fod brenin arall o'r enw Iesu!”

8. Roedd y dyrfa a'r swyddogion wedi cyffroi wrth glywed y cyhuddiadau yma.

9. Ond dyma'r swyddogion yn penderfynu rhyddhau Jason a'r lleill ar fechnïaeth.

10. Yn syth ar ôl iddi nosi, dyma'r credinwyr yn anfon Paul a Silas i ffwrdd i Berea. Ar ôl cyrraedd yno dyma nhw'n mynd i'r synagog Iddewig.

11. Roedd pobl Berea yn fwy agored na'r Thesaloniaid. Roedden nhw'n gwrando'n astud ar neges Paul, ac wedyn yn mynd ati i chwilio'r ysgrifau sanctaidd yn ofalus i weld os oedd y pethau roedd e'n ddweud yn wir.

12. Daeth llawer o'r Iddewon i gredu, a nifer o wragedd pwysig o blith y Groegiaid, a dynion hefyd.

13. Ond pan glywodd Iddewon Thesalonica fod Paul yn cyhoeddi neges Duw yn Berea, dyma nhw'n mynd yno i greu helynt a chynhyrfu'r dyrfa.

14. Dyma'r Cristnogion yno yn penderfynu anfon Paul i'r arfordir ar unwaith, ond arhosodd Silas a Timotheus yn Berea.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 17