Hen Destament

Testament Newydd

Actau 16:8-18 beibl.net 2015 (BNET)

8. Felly dyma nhw'n mynd trwy Mysia i lawr i ddinas Troas.

9. Y noson honno cafodd Paul weledigaeth – roedd dyn o Macedonia yn sefyll o'i flaen, yn crefu arno, “Tyrd draw i Macedonia i'n helpu ni!”

10. Felly, o ganlyniad i'r weledigaeth yma, dyma ni'n paratoi i fynd i Macedonia ar unwaith. Roedden ni wedi dod i'r casgliad mai yno roedd Duw am i ni fynd i gyhoeddi'r newyddion da.

11. Dyma ni'n hwylio o borthladd Troas a chroesi'n syth ar draws i ynys Samothrace, cyn glanio yn Neapolis y diwrnod wedyn.

12. O'r fan honno aethon ni ymlaen i Philipi sy'n dref Rufeinig – y ddinas fwyaf yn y rhan honno o Macedonia. Buon ni yno am rai dyddiau.

13. Ar y dydd Saboth dyma ni'n mynd allan o'r ddinas at lan yr afon, lle roedden ni'n deall fod pobl yn cyfarfod i weddïo. Dyma ni'n eistedd i lawr a dechrau siarad â'r gwragedd oedd wedi dod at ei gilydd yno.

14. Roedd un wraig yno o'r enw Lydia – gwraig o ddinas Thyatira oedd â busnes gwerthu brethyn porffor drud. Roedd hi'n un oedd yn addoli Duw. Wrth wrando, agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi, a dyma hi'n ymateb i neges Paul.

15. Cafodd hi a rhai eraill o'i thŷ eu bedyddio, a rhoddodd wahoddiad i ni i aros yn ei thŷ. “Os dych chi'n derbyn mod i wedi dod i gredu yn yr Arglwydd,” meddai, “dewch i aros yn fy nghartre i.” A llwyddodd i'n perswadio ni i wneud hynny.

16. Rhyw ddiwrnod arall pan oedden ni ar ein ffordd i'r lle gweddi, dyma ni'n cyfarfod caethferch oedd ag ysbryd ynddi yn ei galluogi i ragweld y dyfodol. Roedd hi'n ennill arian mawr i'w pherchnogion drwy ddweud ffortiwn.

17. Dechreuodd ein dilyn ni, gan weiddi, “Mae'r dynion yma yn weision i'r Duw Goruchaf! Maen nhw'n dweud wrthoch chi sut i gael eich achub!”

18. Aeth hyn ymlaen am ddyddiau lawer. Yn y diwedd, roedd hi wedi mynd ar nerfau Paul cymaint nes iddo droi rownd a dweud wrth yr ysbryd drwg oedd ynddi, “Yn enw Iesu y Meseia, tyrd allan ohoni!” A dyma'r ysbryd yn ei gadael hi yr eiliad honno.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 16