Aeth hyn ymlaen am ddyddiau lawer. Yn y diwedd, roedd hi wedi mynd ar nerfau Paul cymaint nes iddo droi rownd a dweud wrth yr ysbryd drwg oedd ynddi, “Yn enw Iesu y Meseia, tyrd allan ohoni!” A dyma'r ysbryd yn ei gadael hi yr eiliad honno.