29. Galwodd y swyddog am oleuadau, a rhuthro i mewn i gell Paul a Silas, a syrthio i lawr o'u blaenau yn crynu mewn ofn.
30. Yna aeth a nhw allan a gofyn iddyn nhw, “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?”
31. Dyma nhw'n ateb, “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub – ti a phawb arall yn dy dŷ.”
32. A dyma nhw'n rhannu'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu gyda'r swyddog a phawb arall yn ei dŷ.
33. Yna aeth y swyddog â nhw yng nghanol y nos i lanhau eu briwiau. Wedyn cafodd e a phawb arall yn ei dŷ eu bedyddio.
34. Yna aeth â nhw i'w gartref a rhoi pryd o fwyd iddyn nhw. Roedd pawb yn ei dŷ mor hapus eu bod nhw wedi credu yn Nuw.
35. Yn gynnar y bore wedyn dyma'r ynadon yn anfon plismyn i'r carchar i ddweud wrth y swyddog am ollwng Paul a Silas yn rhydd.
36. Dyma'r swyddog yn dweud wrth Paul, “Mae'r ynadon wedi dweud eich bod chi'ch dau yn rhydd i fynd.”
37. Ond meddai Paul wrth y plismyn: “Maen nhw wedi'n curo ni'n gyhoeddus a'n taflu ni i'r carchar heb achos llys, a ninnau'n ddinasyddion Rhufeinig! Ydyn nhw'n meddwl nawr eu bod nhw'n gallu cael gwared â ni'n ddistaw bach? Dim gobaith! Bydd rhaid iddyn nhw ddod yma eu hunain i'n hebrwng ni allan!”
38. Dyma'r plismyn yn mynd i ddweud wrth yr ynadon beth oedd wedi digwydd. Pan glywon nhw fod Paul a Silas yn ddinasyddion Rhufeinig roedden nhw wedi dychryn.
39. Felly dyma nhw'n dod i'r carchar i ymddiheuro. Ar ôl mynd â nhw allan o'r carchar, dyma nhw'n pwyso ar y ddau dro ar ôl tro i adael y ddinas.
40. Felly dyma Paul a Silas yn mynd i dŷ Lydia i gyfarfod y credinwyr a'u hannog nhw i ddal ati, ac wedyn dyma nhw'n gadael Philipi.