Ond meddai Paul wrth y plismyn: “Maen nhw wedi'n curo ni'n gyhoeddus a'n taflu ni i'r carchar heb achos llys, a ninnau'n ddinasyddion Rhufeinig! Ydyn nhw'n meddwl nawr eu bod nhw'n gallu cael gwared â ni'n ddistaw bach? Dim gobaith! Bydd rhaid iddyn nhw ddod yma eu hunain i'n hebrwng ni allan!”