Hen Destament

Testament Newydd

Actau 16:13-24 beibl.net 2015 (BNET)

13. Ar y dydd Saboth dyma ni'n mynd allan o'r ddinas at lan yr afon, lle roedden ni'n deall fod pobl yn cyfarfod i weddïo. Dyma ni'n eistedd i lawr a dechrau siarad â'r gwragedd oedd wedi dod at ei gilydd yno.

14. Roedd un wraig yno o'r enw Lydia – gwraig o ddinas Thyatira oedd â busnes gwerthu brethyn porffor drud. Roedd hi'n un oedd yn addoli Duw. Wrth wrando, agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi, a dyma hi'n ymateb i neges Paul.

15. Cafodd hi a rhai eraill o'i thŷ eu bedyddio, a rhoddodd wahoddiad i ni i aros yn ei thŷ. “Os dych chi'n derbyn mod i wedi dod i gredu yn yr Arglwydd,” meddai, “dewch i aros yn fy nghartre i.” A llwyddodd i'n perswadio ni i wneud hynny.

16. Rhyw ddiwrnod arall pan oedden ni ar ein ffordd i'r lle gweddi, dyma ni'n cyfarfod caethferch oedd ag ysbryd ynddi yn ei galluogi i ragweld y dyfodol. Roedd hi'n ennill arian mawr i'w pherchnogion drwy ddweud ffortiwn.

17. Dechreuodd ein dilyn ni, gan weiddi, “Mae'r dynion yma yn weision i'r Duw Goruchaf! Maen nhw'n dweud wrthoch chi sut i gael eich achub!”

18. Aeth hyn ymlaen am ddyddiau lawer. Yn y diwedd, roedd hi wedi mynd ar nerfau Paul cymaint nes iddo droi rownd a dweud wrth yr ysbryd drwg oedd ynddi, “Yn enw Iesu y Meseia, tyrd allan ohoni!” A dyma'r ysbryd yn ei gadael hi yr eiliad honno.

19. Pan welodd ei meistri fod pob gobaith o wneud elw trwyddi wedi mynd hefyd, dyma nhw'n gafael yn Paul a Silas a'u llusgo o flaen yr awdurdodau yn sgwâr y farchnad.

20. “Mae'r Iddewon hyn yn codi twrw yn y dre,” medden nhw wrth yr ynadon

21. “ac maen nhw'n annog pobl i wneud pethau sy'n groes i'n harferion ni Rufeiniaid.”

22. Ymunodd y dyrfa yn yr ymosod ar Paul a Silas, a dyma'r ynadon yn gorchymyn tynnu dillad y ddau a'u curo â ffyn.

23. Wedyn ar ôl eu curo'n ddidrugaredd, dyma nhw'n eu taflu nhw i'r carchar. Cafodd swyddog y carchar orchymyn i'w gwylio nhw'n ofalus,

24. felly rhoddodd y ddau ohonyn nhw yn y gell fwyaf diogel a rhoi eu traed mewn cyffion.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 16