Hen Destament

Testament Newydd

Actau 15:8-27 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pobl, a dangosodd yn glir ei fod yn eu derbyn nhw drwy roi'r Ysbryd Glân iddyn nhw yn union fel y cafodd ei roi i ni.

9. Doedd Duw ddim yn gwahaniaethu rhyngon ni a nhw, am ei fod wedi puro eu calonnau nhw hefyd wrth iddyn nhw gredu.

10. Felly pam dych chi'n amau beth mae Duw wedi ei wneud, drwy fynnu fod y disgyblion yma'n cario beichiau roedden ni a'n hynafiaid yn methu eu cario?

11. Dŷn ni'n credu'n hollol groes! – mai dim ond ffafr a haelioni'r Arglwydd Iesu sy'n ein hachub ni fel hwythau!”

12. Doedd gan neb ddim byd arall i'w ddweud, a dyma nhw'n gwrando ar Barnabas a Paul yn dweud am yr arwyddion gwyrthiol a'r pethau rhyfeddol eraill roedd Duw wedi eu gwneud trwyddyn nhw pan oedden nhw gyda phobl o genhedloedd eraill.

13. Ar ôl iddyn nhw orffen siarad dyma Iago'n dweud: “Gwrandwch, frodyr.

14. Mae Simon wedi disgrifio sut dewisodd Duw bobl iddo'i hun o genhedloedd eraill am y tro cyntaf.

15. Ac mae beth ddwedodd y proffwydi yn cadarnhau hynny, er enghraifft:

16. ‘Bydda i'n dod nôl wedi hyn i ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i'n adeiladu ei adfeilion, a'i adfer,

17. er mwyn i weddill y ddynoliaeth geisio'r Arglwydd, a'r holl wledydd eraill sy'n perthyn i mi.’ Mae'r Arglwydd wedi gwneud y pethau yma

18. yn hysbys ers oesoedd maith.

19. “Felly, yn fy marn i, ddylen ni ddim gwneud pethau'n anodd i'r bobl o genhedloedd eraill sy'n troi at Dduw.

20. Yn lle hynny, gadewch i ni ysgrifennu atyn nhw, a gofyn iddyn nhw beidio bwyta bwyd sydd wedi ei lygru gan eilun-dduwiau, cadw draw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol, a pheidio bwyta cig anifeiliaid sydd wedi eu tagu nac unrhyw beth â gwaed ynddo.

21. Mae yna rai ym mhob dinas sydd wedi bod yn pregethu beth ddysgodd Moses ers amser maith, ac mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen yn y synagogau bob Saboth.”

22. Dyma'r apostolion, gyda'r eglwys gyfan a'i harweinwyr, yn penderfynu dewis dynion i fynd i Antiochia yn Syria gyda Paul a Barnabas. Dau o'r arweinwyr gafodd eu dewis, sef Jwdas (sy'n cael ei alw'n Barsabas) a Silas.

23. Ac roedden nhw i fynd â'r llythyr yma gyda nhw:Llythyr oddi wrth y brodyr yn Jerwsalem, sef apostolion ac arweinwyr yr eglwys.At ein brodyr a'n chwiorydd o genhedloedd eraill yn Antiochia, Syria a Cilicia:Cyfarchion!

24. Dŷn ni wedi clywed fod rhywrai oddi yma wedi bod yn creu helynt acw, ac yn eich drysu a'ch ypsetio chi gyda beth maen nhw'n ei ddysgu. Dim ni wnaeth eu hanfon nhw.

25. Felly dŷn ni wedi cytuno'n unfrydol i anfon dynion atoch chi gyda'n ffrindiau annwyl Barnabas a Paul

26. sydd wedi mentro'u bywydau dros ein Harglwydd Iesu Grist.

27. Bydd Jwdas a Silas yn cadarnhau ar lafar beth dŷn ni wedi ei roi yn y llythyr yma.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 15