Hen Destament

Testament Newydd

Actau 15:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth rhyw ddynion o Jwdea a dechrau dysgu hyn i'r credinwyr yn Antiochia: “Allwch chi ddim cael eich achub heb gadw'r ddefod Iddewig o enwaedu dynion fel gwnaeth Moses ddysgu.”

2. Achosodd hyn ddadlau a thaeru ffyrnig rhyngddyn nhw a Paul a Barnabas. Felly dyma'r eglwys yn dewis Paul a Barnabas gydag eraill i fynd i Jerwsalem i drafod y mater gyda'r apostolion a'r arweinwyr yno.

3. Ar eu ffordd yno dyma nhw'n galw heibio'r credinwyr yn Phenicia a Samaria, a dweud wrthyn nhw am y bobl o genhedloedd eraill oedd wedi cael tröedigaeth. Roedd y credinwyr wrth eu boddau o glywed yr hanes.

4. Pan gyrhaeddon nhw Jerwsalem cawson nhw groeso mawr gan yr eglwys a gan yr apostolion a'r arweinwyr eraill yno. A dyma nhw'n adrodd hanes y cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwyddyn nhw.

5. Ond dyma rai o'r Phariseaid oedd wedi dod i gredu yn sefyll ar eu traed a dadlau fod rhaid i bobl o genhedloedd eraill sy'n dod i gredu ufuddhau i Gyfraith Moses a chadw'r ddefod o enwaedu.

6. Dyma'r apostolion ac arweinwyr eraill yr eglwys yn cyfarfod i ystyried y cwestiwn.

7. Ar ôl lot o ddadlau brwd dyma Pedr yn codi ar ei draed, a dweud: “Frodyr. Beth amser yn ôl dych chi'n cofio fod Duw wedi fy newis i rannu'r newyddion da gyda phobl o genhedloedd eraill, a'u cael nhw i gredu.

8. Mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pobl, a dangosodd yn glir ei fod yn eu derbyn nhw drwy roi'r Ysbryd Glân iddyn nhw yn union fel y cafodd ei roi i ni.

9. Doedd Duw ddim yn gwahaniaethu rhyngon ni a nhw, am ei fod wedi puro eu calonnau nhw hefyd wrth iddyn nhw gredu.

10. Felly pam dych chi'n amau beth mae Duw wedi ei wneud, drwy fynnu fod y disgyblion yma'n cario beichiau roedden ni a'n hynafiaid yn methu eu cario?

11. Dŷn ni'n credu'n hollol groes! – mai dim ond ffafr a haelioni'r Arglwydd Iesu sy'n ein hachub ni fel hwythau!”

12. Doedd gan neb ddim byd arall i'w ddweud, a dyma nhw'n gwrando ar Barnabas a Paul yn dweud am yr arwyddion gwyrthiol a'r pethau rhyfeddol eraill roedd Duw wedi eu gwneud trwyddyn nhw pan oedden nhw gyda phobl o genhedloedd eraill.

13. Ar ôl iddyn nhw orffen siarad dyma Iago'n dweud: “Gwrandwch, frodyr.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 15