Hen Destament

Testament Newydd

Actau 11:22-30 beibl.net 2015 (BNET)

22. Pan glywodd yr eglwys yn Jerwsalem am y peth, dyma nhw'n anfon Barnabas i Antiochia i weld beth oedd yn digwydd.

23. Pan gyrhaeddodd yno gwelodd yn glir fod Duw ar waith. Roedd wrth ei fodd, ac yn annog y rhai oedd wedi credu i aros yn ffyddlon i'r Arglwydd a rhoi eu hunain yn llwyr iddo.

24. Roedd Barnabas yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac yn credu'n gryf, a chafodd nifer fawr o bobl eu harwain ganddo at yr Arglwydd.

25. Aeth Barnabas yn ei flaen i Tarsus wedyn i edrych am Saul.

26. Ar ôl dod o hyd iddo, aeth ag e yn ôl i Antiochia. Buodd y ddau yno gyda'r eglwys am flwyddyn gyfan yn dysgu tyrfa fawr o bobl. (Gyda llaw, yn Antiochia y cafodd dilynwyr Iesu eu galw yn Gristnogion am y tro cyntaf.)

27. Rywbryd yn ystod y flwyddyn honno daeth rhyw broffwydi o Jerwsalem i Antiochia.

28. Yn un o'r cyfarfodydd, dyma un ohonyn nhw (dyn o'r enw Agabus) yn sefyll ar ei draed, ac yn proffwydo dan ddylanwad yr Ysbryd Glân fod newyn trwm yn mynd i ledu drwy'r byd Rhufeinig i gyd. (Digwyddodd y newyn hwnnw yn ystod teyrnasiad Clawdiws.)

29. Felly dyma'r credinwyr yn Antiochia yn penderfynu helpu eu brodyr a'u chwiorydd yn Jwdea, drwy i bawb gyfrannu cymaint ag y gallai.

30. Dyma nhw'n gwneud hynny, a Barnabas a Saul gafodd eu dewis i fynd â'r rhodd i arweinwyr eglwys Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 11