Yn un o'r cyfarfodydd, dyma un ohonyn nhw (dyn o'r enw Agabus) yn sefyll ar ei draed, ac yn proffwydo dan ddylanwad yr Ysbryd Glân fod newyn trwm yn mynd i ledu drwy'r byd Rhufeinig i gyd. (Digwyddodd y newyn hwnnw yn ystod teyrnasiad Clawdiws.)