Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 1:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul, Silas a Timotheus,At bobl eglwys Dduw yn Thesalonica – y bobl sydd â pherthynas gyda Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist:

2. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.

3. Frodyr a chwiorydd, dŷn ni'n diolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Dyna ddylen ni ei wneud, achos mae'ch ffydd chi wedi cryfhau cymaint. Ac mae'r cariad sydd gan bob un ohonoch chi at eich gilydd yn tyfu bob dydd.

4. Dŷn ni'n sôn amdanoch chi wrth bobl eglwysi Duw ym mhobman. Dŷn ni mor falch eich bod chi'n dal ati yn ffyddlon er gwaetha'r holl erlid fuoch chi trwyddo a'r treialon dych chi wedi gorfod eu dioddef.

5. Mae'r cwbl yn arwydd clir y bydd Duw yn barnu'n gyfiawn. Dych chi'n cael eich cyfri'n deilwng i'w gael e'n teyrnasu drosoch chi, a dyna pam dych chi'n dioddef.

6. Mae Duw bob amser yn gwneud beth sy'n iawn, a bydd yn talu'n ôl i'r rhai sy'n gwneud i chi ddioddef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Thesaloniaid 1