Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 1 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul, Silas a Timotheus,At bobl eglwys Dduw yn Thesalonica – y bobl sydd â pherthynas gyda Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist:

2. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.

Diolchgarwch a Gweddi

3. Frodyr a chwiorydd, dŷn ni'n diolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Dyna ddylen ni ei wneud, achos mae'ch ffydd chi wedi cryfhau cymaint. Ac mae'r cariad sydd gan bob un ohonoch chi at eich gilydd yn tyfu bob dydd.

4. Dŷn ni'n sôn amdanoch chi wrth bobl eglwysi Duw ym mhobman. Dŷn ni mor falch eich bod chi'n dal ati yn ffyddlon er gwaetha'r holl erlid fuoch chi trwyddo a'r treialon dych chi wedi gorfod eu dioddef.

5. Mae'r cwbl yn arwydd clir y bydd Duw yn barnu'n gyfiawn. Dych chi'n cael eich cyfri'n deilwng i'w gael e'n teyrnasu drosoch chi, a dyna pam dych chi'n dioddef.

6. Mae Duw bob amser yn gwneud beth sy'n iawn, a bydd yn talu'n ôl i'r rhai sy'n gwneud i chi ddioddef.

7. Bydd y dioddef yn dod i ben i chi, ac i ninnau hefyd, pan fydd yr Arglwydd Iesu yn dod i'r golwg eto. Bydd yn dod o'r nefoedd gyda'i angylion cryfion.

8. Gyda thân yn llosgi'n wenfflam bydd yn cosbi'r rhai sydd ddim yn nabod Duw ac sydd wedi gwrthod y newyddion da am Iesu, ein Harglwydd.

9. Eu cosb nhw fydd dioddef dinistr diddiwedd, a chael eu cau allan o bresenoldeb yr Arglwydd a'i ysblander a'i nerth.

10. Ar y diwrnod olaf hwnnw bydd yn cael ei anrhydeddu gan ei bobl, ac yn destun rhyfeddod gan bawb sydd wedi credu. Ac mae hynny'n eich cynnwys chi, gan eich bod chi wedi credu'r cwbl ddwedon ni wrthoch chi amdano fe.

11. Dyna pam dŷn ni'n gweddïo drosoch chi drwy'r amser – gweddïo y bydd Duw'n eich gwneud chi'n deilwng o'r bywyd mae wedi eich galw i'w fyw. Hefyd, y bydd Duw yn rhoi'r nerth i chi wneud yr holl bethau da dych chi eisiau eu gwneud, a bod yn ffyddlon.

12. Bydd hyn yn golygu bod yr Arglwydd Iesu'n cael ei anrhydeddu yn eich bywydau chi, a byddwch chi hefyd yn cael eich anrhydeddu gydag e. Bydd hyn yn digwydd am fod ein Duw a Iesu Grist ein Harglwydd mor hael!