Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 3 beibl.net 2015 (BNET)

Cais am weddi

1. Yn olaf, ffrindiau, gweddïwch droson ni. Gweddïwch y bydd neges yr Arglwydd yn mynd ar led yn gyflym, ac yn cael ei derbyn yn frwd fel y cafodd gynnoch chi.

2. A gweddïwch hefyd y byddwn ni'n cael ein hamddiffyn rhag pobl gas a drwg. Dydy pawb ddim yn dod i gredu'r neges!

3. Ond mae'r Arglwydd yn ffyddlon; bydd e'n rhoi nerth i chi ac yn eich cadw chi'n ddiogel rhag yr un drwg.

4. Ac mae'r Arglwydd yn ein gwneud ni'n hyderus eich bod chi'n gwneud beth ddwedon ni wrthoch chi, ac y gwnewch chi ddal ati i wneud hynny.

5. Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn eich arwain chi i garu Duw a dal ati i ymddiried yn llwyr ynddo fe, y Meseia.

Rhybudd rhag bod yn ddiog

6. Nawr, dŷn ni'n rhoi gorchymyn i chi, ffrindiau annwyl (ac mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd Iesu Grist i wneud hynny): Cadwch draw oddi wrth unrhyw Gristion sy'n gwrthod gweithio a ddim yn byw fel y dysgon ni i chi fyw.

7. Dilynwch ein hesiampl ni. Fuon ni ddim yn ddiog pan oedden ni gyda chi.

8. Doedden ni ddim yn cymryd mantais o bobl eraill drwy fwyta yn eu cartrefi nhw heb dalu am ein lle. Yn hollol fel arall! Roedden ni'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni.

9. Er bod gynnon ni hawl i ddisgwyl help gynnoch chi, roedden ni am roi esiampl i chi a bod yn batrwm i chi ei ddilyn.

10. “Os ydy rhywun yn gwrthod gweithio, dydy e ddim i gael bwyta” – dyna ddwedon ni pan oedden ni gyda chi.

11. Ond dŷn ni wedi clywed bod rhai ohonoch chi'n diogi. Pobl yn treulio'u hamser yn busnesa yn lle gweithio.

12. Mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd i ddweud wrth bobl felly, a phwyso arnyn nhw i fyw fel y dylen nhw a dechrau ennill eu bara menyn.

13. Ffrindiau annwyl, peidiwch byth â blino gwneud daioni.

14. Cadwch lygad ar unrhyw un sy'n gwrthod gwneud beth dŷn ni'n ei ddweud yn y llythyr yma. Cadwch draw oddi wrtho, er mwyn codi cywilydd arno.

15. Ond peidiwch ei drin fel gelyn – dim ond ei rybuddio fel brawd a'i helpu i newid.

Cyfarchion i gloi

16. Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd sy'n rhoi heddwch yn gwneud i chi brofi ei heddwch ym mhob sefyllfa. Bydded yr Arglwydd yn agos at bob un ohonoch chi.

17. Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun – PAUL. Dyma sy'n dangos yn fy holl lythyrau mai fi sy'n ysgrifennu. Dyma fy llawysgrifen i.

18. Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist.