Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Does dim wir angen i mi ysgrifennu atoch chi am y casgliad yma i helpu Cristnogion Jerwsalem.

2. Dw i'n gwybod eich bod chi'n awyddus i helpu. Dw i wedi bod yn sôn am y peth wrth bobl Macedonia, ac yn dweud wrthyn nhw eich bod chi yn nhalaith Achaia wedi bod yn barod ers y flwyddyn ddiwethaf. Clywed am eich brwdfrydedd chi sydd wedi ysgogi y rhan fwya ohonyn nhw i wneud rhywbeth!

3. Ond dw i'n anfon y brodyr yma atoch chi er mwyn gwneud yn siŵr y bydd ein brolio ni amdanoch ddim yn troi allan i fod yn wag, ac y byddwch yn barod, fel dw i wedi dweud y byddwch chi.

4. Os bydd rhai o dalaith Macedonia gyda ni pan ddown ni i'ch gweld chi, a darganfod eich bod chi ddim yn barod, byddwn ni, heb sôn amdanoch chi, yn teimlo cywilydd go iawn.

5. Dyna pam o'n i'n teimlo bod rhaid anfon y brodyr atoch chi ymlaen llaw. Byddan nhw'n gallu gwneud trefniadau i dderbyn y rhodd dych wedi ei haddo. Bydd yn disgwyl amdanon ni wedyn fel rhodd sy'n dangos mor hael ydych chi, a dim fel rhywbeth wedi ei wasgu allan ohonoch chi.

Hau yn hael

6. Cofiwch hyn: Os mai ychydig dych chi'n ei hau, bach fydd y cynhaeaf; ond os dych chi'n hau yn hael, cewch gynhaeaf mawr.

7. Dylai pob un ohonoch chi roi o'i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw'n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi.

8. Mae Duw'n gallu rhoi mwy na digon o bethau'n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser.

9. Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Mae'r duwiol yn rhoi yn hael i'r tlodion; bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.”

10. Duw sy'n rhoi'r had i'r heuwr a bwyd i bobl ei fwyta. Bydd yn cynyddu eich stôr chi o ‛had‛ ac yn gwneud i gynhaeaf eich gweithredoedd da chi lwyddo.

11. Bydd yn eich gwneud chi'n gyfoethog ym mhob ffordd er mwyn i chi allu bod yn hael bob amser. Bydd llawer o bobl yn diolch i Dduw pan fyddwn ni'n mynd â'ch rhodd chi i Jerwsalem.

12. Nid dim ond cwrdd ag angen pobl Dduw mae beth dych chi'n ei wneud – mae'n llawer mwy na hynny. Bydd yn gwneud i lawer o bobl ddweud diolch wrth Dduw.

13. Bydd pobl yn moli Duw am fod eich haelioni chi wrth rannu gyda nhw a phawb arall yn profi eich bod chi'n ufudd i'r newyddion da dych wedi ei gredu am y Meseia.

14. Byddan nhw'n gweddïo drosoch chi, ac yn hiraethu amdanoch chi, am fod Duw wedi'ch galluogi chi i fod mor hael.

15. A diolch i Dduw am ei fod e wedi rhoi rhodd i ni sydd y tu hwnt i eiriau!