Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 4 beibl.net 2015 (BNET)

Trysor mewn llestri pridd

1. Felly gan fod Duw wedi bod mor garedig â rhoi'r gwaith yma'n ein gofal ni, dŷn ni ddim yn digalonni.

2. Dŷn ni wedi gwrthod pob dull cudd a dan din o weithredu. Wnawn ni ddim twyllo neb na gwyrdroi neges Duw. Dŷn ni'n dweud yn blaen beth ydy'r gwir, ac mae pawb yn gwybod eu bod nhw'n gallu'n trystio ni fel rhai sy'n gwbl agored o flaen Duw.

3. Os oes rhai pobl sy'n methu deall y newyddion da dŷn ni'n ei gyhoeddi, y bobl sy'n mynd i ddistryw ydy'r rheiny.

4. Y diafol (‛duw‛ y byd hwn) sydd wedi dallu'r rhai sydd ddim yn credu. Does ganddo fe ddim eisiau iddyn nhw ddeall y newyddion da, na gweld ysblander y Meseia sy'n dangos i ni yn union sut un ydy Duw.

5. Dŷn ni ddim yn siarad amdanon ni'n hunain – dim ond cyhoeddi mai Iesu y Meseia ydy'r Arglwydd. Ein lle ni ydy eich gwasanaethu chi ar ran Iesu.

6. Ac mae'r Duw ddwedodd, “Dw i eisiau i olau ddisgleirio allan o'r tywyllwch,” wedi'n goleuo ni a'n galluogi ni i ddangos fod ysblander Duw ei hun yn disgleirio yn wyneb Iesu y Meseia.

7. Dyma'r trysor mae Duw wedi ei roi i ni. Mae'n cael ei gario gynnon ni sy'n ddim byd ond llestri pridd – ffaith sy'n dangos mai o Dduw mae'r grym anhygoel yma'n dod, dim ohonon ni.

8. Er fod trafferthion yn gwasgu o bob cyfeiriad, dŷn ni ddim wedi cael ein llethu'n llwyr. Dŷn ni'n ansicr weithiau, ond heb anobeithio;

9. yn cael ein herlid, ond dydy Duw ddim wedi'n gadael ni; yn cael ein taro i lawr, ond yn cael ein codi yn ôl ar ein traed bob tro!

10. Wrth ddioddef yn gorfforol dŷn ni'n rhannu rhyw wedd ar farwolaeth Iesu, ond mae hynny er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff bregus ni.

11. Dŷn ni sy'n fyw bob amser mewn peryg o gael ein lladd fel Iesu, er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff marwol ni.

12. Rhaid i ni wynebu marwolaeth er mwyn i chi gael bywyd tragwyddol.

13. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Credais, felly dwedais.” Yr un ysbryd sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. Dŷn ni hefyd wedi credu ac felly'n dweud.

14. Am fod Duw wedi codi'r Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, dŷn ni'n gwybod y bydd yn dod â ninnau yn ôl yn fyw gyda Iesu. A byddwn ni, a chithau hefyd, yn cael bod gydag e!

15. Yn wir, dŷn ni'n gwneud popeth er eich mwyn chi. Wrth i rodd Duw o fywyd fynd ar led, yn cofleidio mwy a mwy o bobl, bydd mwy a mwy o bobl yn diolch i Dduw ac yn ei addoli.

16. Dyna pam dŷn ni ddim yn digalonni. Hyd yn oed os ydyn ni'n darfod yn gorfforol, dŷn ni'n cael ein cryfhau'n ysbrydol bob dydd.

17. Dydy'n trafferthion presennol ni'n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para'n hir. Ond maen nhw'n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw – ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur!

18. Felly mae'n sylw ni wedi ei hoelio ar beth sy'n anweledig, dim ar beth welwn ni'n digwydd o'n cwmpas ni. Dydy beth sydd i'w weld ond yn para dros dro, ond mae beth sy'n anweledig yn aros am byth!