Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 1:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dŷn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedden ni'n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni,

9. a'n bod ni wir yn mynd i farw. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni'n hunain. Fe ydy'r Duw sy'n dod â'r meirw yn ôl yn fyw!

10. Mae wedi'n hachub ni y tro yma, a bydd yn ein hachub ni eto. A dŷn ni'n gwbl hyderus y bydd yn dal ati i wneud hynny

11. tra byddwch chi'n ein helpu ni drwy weddïo droson ni. Wedyn bydd lot fawr o bobl yn diolch i Dduw am fod mor garedig tuag aton ni, yn ateb gweddïau cymaint o'i bobl.

12. Dŷn ni'n gallu dweud gyda chydwybod glir ein bod ni wedi bod yn gwbl agored ac yn ddidwyll bob amser. Mae'n arbennig o wir am y ffordd dŷn ni wedi delio gyda chi. Haelioni Duw sydd wrth wraidd y peth, nid doethineb bydol.

13. Dw i wedi siarad yn blaen yn fy llythyrau atoch chi – does dim i'w ddarllen rhwng y llinellau. Dych chi'n gwybod ei fod yn wir.

14. Dych chi wedi dechrau cydnabod hynny, a dw i'n gobeithio y byddwch yn dod i gydnabod y peth yn llawn. Wedyn pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl byddwch chi'n gallu bod yn falch ohonon ni a byddwn ni'n gallu bod yn falch ohonoch chi.

15. Gan fy mod i mor siŵr eich bod chi wedi deall hyn, roeddwn i wedi bwriadu eich bendithio chi ddwy waith.

16. Roeddwn i'n mynd i ymweld â chi ar fy ffordd i dalaith Macedonia a galw heibio eto ar y daith yn ôl. Wedyn byddech chi'n gallu fy helpu i fynd ymlaen i Jwdea.

17. Ond wnes i ddim hynny, felly ydych chi'n dweud mod i'n chwit-chwat? Ydw i yr un fath ag mae pobl y byd mor aml, yn dweud ‛ie‛ un funud a ‛nage‛ y funud nesa?

18. Nac ydw – mae Duw'n gwybod nad person felly ydw i. Dw i ddim yn dweud un peth ac wedyn yn gwneud rhywbeth arall.

19. A doedd dim byd ansicr am y neges roeddwn i a Silas a Timotheus yn ei chyhoeddi yn eich plith chi chwaith – sef y neges am Iesu y Meseia, mab Duw. Fe ydy ‛ie‛ Duw i ni bob amser!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 1