Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 1:16-24 beibl.net 2015 (BNET)

16. Roeddwn i'n mynd i ymweld â chi ar fy ffordd i dalaith Macedonia a galw heibio eto ar y daith yn ôl. Wedyn byddech chi'n gallu fy helpu i fynd ymlaen i Jwdea.

17. Ond wnes i ddim hynny, felly ydych chi'n dweud mod i'n chwit-chwat? Ydw i yr un fath ag mae pobl y byd mor aml, yn dweud ‛ie‛ un funud a ‛nage‛ y funud nesa?

18. Nac ydw – mae Duw'n gwybod nad person felly ydw i. Dw i ddim yn dweud un peth ac wedyn yn gwneud rhywbeth arall.

19. A doedd dim byd ansicr am y neges roeddwn i a Silas a Timotheus yn ei chyhoeddi yn eich plith chi chwaith – sef y neges am Iesu y Meseia, mab Duw. Fe ydy ‛ie‛ Duw i ni bob amser!

20. Fe ydy'r un sy'n dod â'r cwbl mae Duw wedi ei addo yn wir! Dyna pam dŷn ni'n dweud “Amen” (sef “ie wir!”) wrth addoli Duw – o achos y cwbl wnaeth e!

21. A Duw ydy'r un sy'n ein galluogi ni (a chithau hefyd!) i sefyll yn gadarn dros y Meseia. Dewisodd ni i weithio drosto,

22. ac mae wedi'n marcio ni'n bobl iddo'i hun. Mae wedi rhoi ei Ysbryd y tu mewn i ni, yn flaendal o'r cwbl sydd i ddod.

23. Dw i'n galw ar Dduw i dystio fy mod i'n dweud y gwir. Y rheswm pam wnes i ddim dod yn ôl i Corinth i'ch gweld chi wedi'r cwbl oedd fy mod i eisiau'ch arbed chi.

24. Dŷn ni ddim eisiau'ch fforsio chi i gredu fel dŷn ni'n dweud. Dŷn ni eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn, a sefyll yn gadarn am eich bod wedi credu drosoch eich hunain.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 1