Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 5:3-18 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dylai'r eglwys ofalu am y gweddwon hynny sydd mewn gwir angen.

4. Ond os oes gan weddw blant neu wyrion, dylai'r rheiny ymarfer eu crefydd drwy ofalu am eu teuluoedd. Gallan nhw dalu yn ôl am y gofal gawson nhw pan yn blant. Dyna sut mae plesio Duw.

5. Os ydy gweddw mewn gwir angen does ganddi neb i edrych ar ei hôl. Duw ydy ei hunig obaith hi, ac mae hi'n gweddïo ddydd a nos ac yn gofyn iddo am help.

6. Ond mae'r weddw sy'n byw i fwynhau ei hun a chael amser da yn farw'n ysbrydol.

7. Gwna'n siŵr fod pobl yn yr eglwys yn deall y pethau yma, wedyn fydd dim lle i feio neb.

8. Mae unrhyw un sy'n gwrthod gofalu am ei berthnasau, yn arbennig ei deulu agosaf, wedi troi cefn ar y ffydd Gristnogol. Yn wir mae person felly yn waeth na'r bobl sydd ddim yn credu.

9. Ddylai gweddw ddim ond cael ei chynnwys ar restr y rhai mae'r eglwys yn gofalu amdanyn nhw os ydy hi dros chwe deg oed. Rhaid iddi hefyd fod wedi bod yn ffyddlon i'w gŵr,

10. ac yn wraig mae enw da iddi am ei bod wedi gwneud cymaint o ddaioni: wedi magu ei phlant, rhoi croeso i bobl ddieithr, gwasanaethu pobl Dduw, a helpu pobl mewn trafferthion. Dylai fod yn wraig sydd wedi ymroi i wneud daioni bob amser.

11. Paid rhoi enwau'r gweddwon iau ar y rhestr. Pan fydd eu teimladau rhywiol yn gryfach na'u hymroddiad i'r Meseia, byddan nhw eisiau priodi.

12. Byddai hynny yn golygu eu bod nhw'n euog o fod wedi torri'r addewid blaenorol wnaethon nhw.

13. Yr un pryd, mae peryg iddyn nhw fynd i'r arfer drwg o wneud dim ond crwydro o un tŷ i'r llall a bod yn ddiog. Ac yn waeth na hynny, clebran a busnesa a dweud pethau ddylen nhw ddim.

14. Dw i am i'r gweddwon iau i briodi eto a chael plant, a gofalu am y cartref. Wedyn fydd y gelyn ddim yn gallu bwrw sen arnon ni.

15. Ond mae rhai eisoes wedi troi cefn, a mynd ar ôl Satan.

16. Os oes gan unrhyw wraig sy'n Gristion berthnasau sy'n weddwon, dylai hi ofalu amdanyn nhw a pheidio rhoi'r baich ar yr eglwys. Bydd yr eglwys wedyn yn gallu canolbwyntio ar helpu'r gweddwon hynny sydd mewn gwir angen.

17. Mae'r arweinwyr hynny yn yr eglwys sy'n gwneud eu gwaith yn dda yn haeddu eu parchu a derbyn cyflog teg. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai hynny sy'n gweithio'n galed yn pregethu a dysgu.

18. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “Peidiwch rhwystro'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta,” a hefyd “Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 5