Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 5 beibl.net 2015 (BNET)

Cyngor am weddwon, arweinwyr yr eglwys, a caethweision

1. Paid bod yn llawdrwm wrth geryddu dyn sy'n hŷn na ti. Dangos barch ato ac apelio ato fel petai'n dad i ti. Trin y dynion ifanc fel brodyr,

2. y gwragedd hŷn fel mamau, a'r gwragedd ifanc fel chwiorydd (a gofalu dy fod yn cadw dy feddwl yn lân pan fyddi gyda nhw).

3. Dylai'r eglwys ofalu am y gweddwon hynny sydd mewn gwir angen.

4. Ond os oes gan weddw blant neu wyrion, dylai'r rheiny ymarfer eu crefydd drwy ofalu am eu teuluoedd. Gallan nhw dalu yn ôl am y gofal gawson nhw pan yn blant. Dyna sut mae plesio Duw.

5. Os ydy gweddw mewn gwir angen does ganddi neb i edrych ar ei hôl. Duw ydy ei hunig obaith hi, ac mae hi'n gweddïo ddydd a nos ac yn gofyn iddo am help.

6. Ond mae'r weddw sy'n byw i fwynhau ei hun a chael amser da yn farw'n ysbrydol.

7. Gwna'n siŵr fod pobl yn yr eglwys yn deall y pethau yma, wedyn fydd dim lle i feio neb.

8. Mae unrhyw un sy'n gwrthod gofalu am ei berthnasau, yn arbennig ei deulu agosaf, wedi troi cefn ar y ffydd Gristnogol. Yn wir mae person felly yn waeth na'r bobl sydd ddim yn credu.

9. Ddylai gweddw ddim ond cael ei chynnwys ar restr y rhai mae'r eglwys yn gofalu amdanyn nhw os ydy hi dros chwe deg oed. Rhaid iddi hefyd fod wedi bod yn ffyddlon i'w gŵr,

10. ac yn wraig mae enw da iddi am ei bod wedi gwneud cymaint o ddaioni: wedi magu ei phlant, rhoi croeso i bobl ddieithr, gwasanaethu pobl Dduw, a helpu pobl mewn trafferthion. Dylai fod yn wraig sydd wedi ymroi i wneud daioni bob amser.

11. Paid rhoi enwau'r gweddwon iau ar y rhestr. Pan fydd eu teimladau rhywiol yn gryfach na'u hymroddiad i'r Meseia, byddan nhw eisiau priodi.

12. Byddai hynny yn golygu eu bod nhw'n euog o fod wedi torri'r addewid blaenorol wnaethon nhw.

13. Yr un pryd, mae peryg iddyn nhw fynd i'r arfer drwg o wneud dim ond crwydro o un tŷ i'r llall a bod yn ddiog. Ac yn waeth na hynny, clebran a busnesa a dweud pethau ddylen nhw ddim.

14. Dw i am i'r gweddwon iau i briodi eto a chael plant, a gofalu am y cartref. Wedyn fydd y gelyn ddim yn gallu bwrw sen arnon ni.

15. Ond mae rhai eisoes wedi troi cefn, a mynd ar ôl Satan.

16. Os oes gan unrhyw wraig sy'n Gristion berthnasau sy'n weddwon, dylai hi ofalu amdanyn nhw a pheidio rhoi'r baich ar yr eglwys. Bydd yr eglwys wedyn yn gallu canolbwyntio ar helpu'r gweddwon hynny sydd mewn gwir angen.

17. Mae'r arweinwyr hynny yn yr eglwys sy'n gwneud eu gwaith yn dda yn haeddu eu parchu a derbyn cyflog teg. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai hynny sy'n gweithio'n galed yn pregethu a dysgu.

18. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “Peidiwch rhwystro'r ychen sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta,” a hefyd “Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”

19. Paid gwrando ar gyhuddiad yn erbyn arweinydd yn yr eglwys oni bai fod dau neu dri tyst.

20. Ond dylai'r rhai sydd yn dal ati i bechu gael eu ceryddu o flaen pawb, er mwyn i'r lleill wylio eu hunain.

21. O flaen Duw a'r Meseia Iesu a'r angylion mae wedi eu dewis, dw i'n rhoi siars i ti wneud y pethau yma heb ragfarn na chymryd ochrau. Paid byth â dangos ffafriaeth!

22. Gwylia rhag bod yn fyrbwyll wrth gomisiynu pobl yn arweinwyr yn yr eglwys. Does gen ti ddim eisiau bod yn gyfrifol am bechodau pobl eraill. Cadw dy hun yn bur.

23. O hyn ymlaen stopia yfed dim byd ond dŵr. Cymer ychydig win i wella dy stumog. Rwyt ti'n dioddef salwch yn rhy aml.

24. Mae pechodau rhai pobl yn gwbl amlwg, a does dim amheuaeth eu bod nhw'n euog. Ond dydy pechodau pobl eraill ddim ond yn dod i'r amlwg yn nes ymlaen.

25. A'r un modd, mae'r pethau da mae rhai pobl yn eu gwneud yn amlwg hefyd. A fydd dim modd cuddio'r pethau hynny sydd wedi eu gwneud o'r golwg am byth.