Pan ddaethon ni â'n newyddion da atoch chi, nid dim ond siarad wnaethon ni. Roedd nerth yr Ysbryd Glân i'w weld, ac roedden ni'n hollol sicr fod ein neges ni'n wir. A dych chi'n gwybod hefyd sut roedden ni'n ymddwyn yn eich plith chi – roedden ni'n gwneud y cwbl er eich lles chi.