Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 1 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul, Silas a Timotheus,At bobl eglwys Dduw yn Thesalonica – y bobl sydd â pherthynas gyda Duw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist:Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni Duw a'i heddwch dwfn.

Diolch am y Thesaloniaid

2. Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw amdanoch chi i gyd, ac yn gweddïo drosoch chi'n gyson.

3. Bob tro dŷn ni'n sôn amdanoch chi wrth ein Duw a'n Tad, dŷn ni'n cofio am y cwbl dych chi'n ei wneud am eich bod chi'n credu. Am y gwaith caled sy'n deillio o'ch cariad chi, a'ch gallu i ddal ati am fod eich gobaith yn sicr yn yr Arglwydd Iesu Grist.

4. Dŷn ni'n gwybod, ffrindiau, fod Duw wedi'ch caru chi a'ch dewis chi yn bobl iddo'i hun.

5. Pan ddaethon ni â'n newyddion da atoch chi, nid dim ond siarad wnaethon ni. Roedd nerth yr Ysbryd Glân i'w weld, ac roedden ni'n hollol sicr fod ein neges ni'n wir. A dych chi'n gwybod hefyd sut roedden ni'n ymddwyn yn eich plith chi – roedden ni'n gwneud y cwbl er eich lles chi.

6. A dyma chi'n derbyn y neges gyda'r brwdfrydedd mae'r Ysbryd Glân yn ei roi, er eich bod chi wedi gorfod dioddef am wneud hynny. Roeddech chi'n dilyn ein hesiampl ni, a'r Arglwydd Iesu ei hun.

7. A dyna sut daethoch chi'ch hunain i fod yn esiampl i'r holl gredinwyr yn Macedonia ac Achaia.

8. Yn wir, dych chi wedi peri bod pobl sy'n byw'n llawer pellach na Macedonia ac Achaia wedi clywed neges yr Arglwydd. Mae pobl ym mhob man wedi dod i glywed sut daethoch chi i gredu yn Nuw. Does dim rhaid i ni ddweud dim byd am y peth!

9. Mae pobl yn siarad am y fath groeso gawson ni gynnoch chi. Maen nhw'n sôn amdanoch chi'n troi cefn ar eilun-dduwiau a dod i addoli a gwasanaethu'r Duw byw ei hun – y Duw go iawn!

10. Maen nhw hefyd yn sôn am y ffordd dych chi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Mab Duw yn dod i'r golwg eto o'r nefoedd. Ie, Iesu, yr un gafodd ei godi yn ôl yn fyw, ac sy'n ein hachub ni rhag cael ein cosbi pan fydd Duw yn barnu'r byd.