Bob tro dŷn ni'n sôn amdanoch chi wrth ein Duw a'n Tad, dŷn ni'n cofio am y cwbl dych chi'n ei wneud am eich bod chi'n credu. Am y gwaith caled sy'n deillio o'ch cariad chi, a'ch gallu i ddal ati am fod eich gobaith yn sicr yn yr Arglwydd Iesu Grist.