Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 5:6-14 beibl.net 2015 (BNET)

6. Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw'r amser bydd e'n eich anrhydeddu chi.

7. Rhowch y pethau dych chi'n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e'n gofalu amdanoch chi.

8. Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae'ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i'w lyncu.

9. Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi'n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy'r byd i gyd yn dioddef yr un fath.

10. Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy'n perthyn i'r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a'ch cryfhau chi, a'ch gwneud chi'n gadarn a sefydlog.

11. Fe sydd biau'r grym i gyd, am byth! Amen!

12. Dw i'n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas (un dw i'n ei ystyried yn frawd ffyddlon). Dw i wedi ceisio'ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn.

13. Mae'r gynulleidfa o bobl mae Duw wedi eu dewis yma yn Rhufain yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Ac mae Marc, sydd fel mab i mi, yn cofio atoch chi hefyd.

14. Cyfarchwch eich gilydd mewn ffordd sy'n dangos cariad go iawn. Dw i'n gweddïo y bydd pob un ohonoch chi sy'n perthyn i'r Meseia yn profi ei heddwch dwfn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 5