Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 5 beibl.net 2015 (BNET)

At arweinwyr yr eglwys a'r rhai ifanc

1. Gair i chi sy'n arweinwyr yn yr eglwys. (Dw i am eich annog chi fel un sy'n arweinydd fy hun, ac a welodd y Meseia'n dioddef. Bydda i hefyd yn rhannu ei ysblander pan ddaw i'r golwg!):

2. Gofalwch am bobl Dduw fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu praidd. Gwnewch hynny'n frwd, dim am eich bod chi'n cael eich gorfodi i wneud, ond am mai dyna mae Duw eisiau. Ddim er mwyn gwneud arian, ond am eich bod yn awyddus i wasanaethu.

3. Peidiwch ei lordio hi dros y bobl sy'n eich gofal chi, ond eu harwain trwy fod yn esiampl dda iddyn nhw.

4. Wedyn pan fydd y Meseia, y Pen Bugail, yn dod yn ôl, cewch wobr fydd byth yn dod i ben: coron hardd sydd byth yn gwywo.

5. Ac wedyn chi'r rhai ifanc. Dylech chi fod yn atebol i'r arweinwyr hŷn. Dylai pob un ohonoch chi edrych ar ôl eich gilydd yn wylaidd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae'n hael at y rhai gostyngedig.”

6. Os wnewch chi blygu i awdurdod Duw a chydnabod eich angen, pan ddaw'r amser bydd e'n eich anrhydeddu chi.

7. Rhowch y pethau dych chi'n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e'n gofalu amdanoch chi.

8. Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae'ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i'w lyncu.

9. Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi'n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy'r byd i gyd yn dioddef yr un fath.

10. Ond does ond rhaid i chi ddioddef am ychydig. Mae Duw, sydd mor anhygoel o hael, yn eich galw chi sy'n perthyn i'r Meseia i rannu ei ysblander tragwyddol. Bydd yn eich adfer chi, a'ch cryfhau chi, a'ch gwneud chi'n gadarn a sefydlog.

11. Fe sydd biau'r grym i gyd, am byth! Amen!

Cyfarchion i gloi

12. Dw i'n anfon y llythyr byr yma atoch chi drwy law Silas (un dw i'n ei ystyried yn frawd ffyddlon). Dw i wedi ceisio'ch annog chi, a thystio fod beth dw i wedi ysgrifennu amdano yn dangos haelioni gwirioneddol Duw. Felly safwch yn gadarn.

13. Mae'r gynulleidfa o bobl mae Duw wedi eu dewis yma yn Rhufain yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Ac mae Marc, sydd fel mab i mi, yn cofio atoch chi hefyd.

14. Cyfarchwch eich gilydd mewn ffordd sy'n dangos cariad go iawn. Dw i'n gweddïo y bydd pob un ohonoch chi sy'n perthyn i'r Meseia yn profi ei heddwch dwfn.