Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 11:15-29 beibl.net 2015 (BNET)

15. ei bod yn beth anrhydeddus i wraig gael gwallt hir? Mae ei gwallt hir wedi ei roi iddi hi fel gorchudd.

16. Os ydy rhywun am ddadlau am hyn, does gynnon ni ddim arfer gwahanol. A does gan eglwysi Duw ddim chwaith.

17. Dw i ddim yn gallu'ch canmol chi wrth ymateb i'r mater nesa chwaith. Mae'n ymddangos fod eich cyfarfodydd chi'n gwneud mwy o ddrwg nag o dda.

18. Dw i'n clywed yn gyntaf fod rhaniadau yn eich plith chi pan fyddwch yn cyfarfod fel eglwys, a dw i'n credu'r peth i ryw raddau.

19. “Mae'n amhosib osgoi gwahaniaethau” meddech chi, ac mae hynny i fod i ddangos yn glir ar ochr pwy mae Duw, ydy e?

20. Os felly, dim Swper yr Arglwydd dych chi'n ei fwyta pan ddowch at eich gilydd!

21. Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A'r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi!

22. Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu dych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i'n mynd i'ch canmol chi? Na, dim o gwbwl!

23. Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd: Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth.

24. Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe'n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”

25. Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd mae Duw'n ei wneud, wedi ei selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.”

26. Bob tro byddwch chi'n bwyta'r bara ac yn yfed o'r cwpan, byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto.

27. Felly, bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r bara neu'n yfed o gwpan yr Arglwydd mewn ffordd sy'n anweddus yn cael ei gyfri'n euog o bechu yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd.

28. Dyna pam mae'n bwysig edrych yn fanwl ar ein bywydau cyn bwyta'r bara ac yfed o'r cwpan.

29. Mae pawb sy'n bwyta ac yfed yn ddifeddwl, heb gydnabod ein bod gyda'n gilydd yn ‛gorff yr Arglwydd‛ yn bwyta ac yfed barn arnyn nhw eu hunain.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 11