Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 10:8-22 beibl.net 2015 (BNET)

8. Maen nhw'n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw – gyda'r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod!

9. Maen nhw'n rhybudd i ni beidio rhoi'r Arglwydd ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw – a chael eu lladd gan nadroedd.

10. Ac maen nhw'n rhybudd i ni beidio cwyno, fel rhai ohonyn nhw – ac angel dinistriol yn dod ac yn eu lladd nhw.

11. Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i'n rhybuddio ni sy'n byw ar ddiwedd yr oesoedd.

12. Felly, os dych chi'n un o'r rhai sy'n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio!

13. Dydy'r temtasiynau dych chi'n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi'ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.

14. Felly, ffrindiau annwyl, ffowch oddi wrth addoli eilun-dduwiau.

15. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin. Meddyliwch am beth dw i'n ei ddweud:

16. Onid ydy'r cwpan o win dŷn ni'n diolch amdano yn y cymun yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu arwyddocâd gwaed y Meseia? Ac onid ydy'r dorth o fara dŷn ni'n ei thorri yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu yng nghorff y Meseia?

17. Un dorth sydd, felly dŷn ni sy'n grŵp o unigolion, yn dod yn un corff wrth rannu o'r dorth.

18. Meddyliwch am bobl Israel: Onid ydy'r rhai sy'n bwyta o'r aberthau yn cyfrannu o arwyddocâd yr aberth ar yr allor?

19. Felly beth dw i'n geisio ei ddweud? – fod bwyta beth sydd wedi ei offrymu i eilun-dduwiau yn golygu rhywbeth, neu fod yr eilun ei hun yn rhywbeth?

20. Na, dweud ydw i mai cael eu hoffrymu i gythreuliaid mae'r aberthau yn y pen draw, nid i Dduw; a dw i ddim am i chi gael dim i'w wneud â chythreuliaid.

21. Dydy hi ddim yn iawn i chi yfed o gwpan yr Arglwydd ac o gwpan pwerau cythreulig ar yr un pryd. Allwch chi ddim bwyta wrth fwrdd yr Arglwydd ac wrth fwrdd cythreuliaid.

22. Ydyn ni wir eisiau “gwneud yr Arglwydd yn eiddigeddus” Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gryfach nag e?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 10