Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 10:2-16 beibl.net 2015 (BNET)

2. Cafodd pob un ohonyn nhw eu ‛bedyddio‛ fel dilynwyr Moses yn y cwmwl a'r môr.

3. Cafodd pob un ohonyn nhw fwyta yr un bwyd ysbrydol

4. ac yfed yr un dŵr ysbrydol. Roedden nhw'n yfed o'r graig ysbrydol oedd yn teithio gyda nhw – a'r Meseia oedd y graig honno.

5. Ond er gwaetha hyn i gyd, wnaeth y rhan fwya ohonyn nhw ddim plesio Duw – “buon nhw farw yn yr anialwch.”

6. Digwyddodd y pethau hyn i gyd fel esiamplau i'n rhybuddio ni rhag bod eisiau gwneud drwg fel y gwnaethon nhw.

7. Maen nhw'n rhybudd i ni beidio addoli eilun-dduwiau fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw. Yr ysgrifau sanctaidd sy'n dweud: “Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, a chodi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.”

8. Maen nhw'n rhybudd i ni beidio bod yn anfoesol yn rhywiol fel rhai ohonyn nhw – gyda'r canlyniad fod dau ddeg tri o filoedd ohonyn nhw wedi marw mewn un diwrnod!

9. Maen nhw'n rhybudd i ni beidio rhoi'r Arglwydd ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw – a chael eu lladd gan nadroedd.

10. Ac maen nhw'n rhybudd i ni beidio cwyno, fel rhai ohonyn nhw – ac angel dinistriol yn dod ac yn eu lladd nhw.

11. Digwyddodd y cwbl, un ar ôl y llall, fel esiamplau i ni. Cawson nhw eu hysgrifennu i lawr i'n rhybuddio ni sy'n byw ar ddiwedd yr oesoedd.

12. Felly, os dych chi'n un o'r rhai sy'n meddwl eich bod yn sefyll yn gadarn, gwyliwch rhag i chi syrthio!

13. Dydy'r temtasiynau dych chi'n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi'ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.

14. Felly, ffrindiau annwyl, ffowch oddi wrth addoli eilun-dduwiau.

15. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin. Meddyliwch am beth dw i'n ei ddweud:

16. Onid ydy'r cwpan o win dŷn ni'n diolch amdano yn y cymun yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu arwyddocâd gwaed y Meseia? Ac onid ydy'r dorth o fara dŷn ni'n ei thorri yn arwydd ein bod ni gyda'n gilydd yn rhannu yng nghorff y Meseia?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 10