Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 4:6-13 beibl.net 2015 (BNET)

6. Ac eto,“Mae un llond llaw gyda gorffwysyn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.”Ydy, mae fel ceisio rheoli'r gwynt!

7. Yna dyma fi'n ystyried rhywbeth arall sy'n gwneud dim sens o gwbl:

8. Rhywun sydd ar ei ben ei hun yn llwyr – heb gymar na phlant na pherthnasau – ac eto'n gweithio'n ddi-stop, a byth yn fodlon gyda beth sydd ganddo. “Pam dw i'n gwneud hyn, ac amddifadu fy hun o fwynhad?” meddai. Dydy peth felly yn gwneud dim sens! Mae'n drist iawn.

9. “Mae dau gyda'i gilydd yn well nag un.” Wrth weithio gyda'i gilydd mae'r ddau berson ar eu hennill.

10. Os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi. Ond druan o'r person sydd ar ei ben ei hun, heb neb i'w helpu i godi.

11. Hefyd, “Os ydy dau yn gorwedd gyda'i gilydd maen nhw'n cadw'n gynnes.” Ond sut mae rhywun i fod i gadw'n gynnes pan fydd ar ei ben ei hun?

12. “Pan fydd rhywun yn ymosod, mae dau yn fwy tebygol o'i rwystro nag un.” “Dydy rhaff deircainc ddim yn hawdd i'w thorri!”

13. “Mae bachgen ifanc doeth o gefndir tlawd yn wellna brenin mewn oed sy'n ffôl ac yn gwrthod derbyn cyngor.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 4