Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 4:10-16 beibl.net 2015 (BNET)

10. Os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi. Ond druan o'r person sydd ar ei ben ei hun, heb neb i'w helpu i godi.

11. Hefyd, “Os ydy dau yn gorwedd gyda'i gilydd maen nhw'n cadw'n gynnes.” Ond sut mae rhywun i fod i gadw'n gynnes pan fydd ar ei ben ei hun?

12. “Pan fydd rhywun yn ymosod, mae dau yn fwy tebygol o'i rwystro nag un.” “Dydy rhaff deircainc ddim yn hawdd i'w thorri!”

13. “Mae bachgen ifanc doeth o gefndir tlawd yn wellna brenin mewn oed sy'n ffôl ac yn gwrthod derbyn cyngor.”

14. Hyd yn oed os oedd e yn y carchar cyn dod i reoli, ac wedi'i eni'n dlawd yn y wlad y byddai'n teyrnasu arni.

15. Yna dyma fi'n gweld yr holl bobl sy'n byw yn y byd yn sefyll o gwmpas bachgen ifanc arall fyddai'n ei olynu.

16. Doedd dim posib cyfri'r holl bobl roedd yn eu harwain! Ac eto fydd y cenedlaethau i ddod ddim yn gwerthfawrogi hwnnw. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 4