7. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dw i'n mynd i achub fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin,
8. a dod â nhw'n ôl i Jerwsalem i fyw. Fy mhobl i fyddan nhw, a bydda i'n Dduw iddyn nhw. Bydda i'n ffyddlon ac yn deg â nhw.
9. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dych chi'n clywed heddiw yr un peth gafodd ei ddweud gan y proffwydi pan gafodd sylfaeni teml yr ARGLWYDD holl-bwerus eu gosod i'w hadeiladu eto, sef, ‘Daliwch ati!
10. Cyn hynny doedd pobl nac anifeiliaid yn ennill dim am eu gwaith! Doedd hi ddim yn saff i bobl fynd a dod. Ro'n i'n gwneud i bawb dynnu'n groes i'w gilydd.
11. Ond nawr mae pethau'n mynd i fod yn wahanol i'r bobl yma sydd ar ôl,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
12. ‘Bydd llonydd i bobl hau cnydau. Bydd ffrwyth yn tyfu ar y winwydden, a'r tir yn rhoi cnwd da. Bydd yr awyr yn rhoi glaw a gwlith i'r ddaear. Dyna sut fydd hi bob amser i'r bobl yma sydd ar ôl!
13. O'r blaen, roeddech chi'n cael eich ystyried yn wlad wedi ei melltithio, Israel a Jwda. Ond dw i'n mynd i'ch achub chi, a byddwch chi'n amlwg yn bobl wedi eu bendithio. Peidiwch bod ag ofn! Daliwch ati!’
14. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Fel roeddwn i am eich cosbi chi pan oedd eich hynafiaid yn fy ngwylltio i (a dyna'n union beth wnes i),
15. dw i bellach am wneud pethau da i bobl Jerwsalem a Jwda – felly peidiwch bod ag ofn!
16. “‘Dyma beth dw i eisiau i chi ei wneud: Dwedwch y gwir wrth eich gilydd. Hybu cyfiawnder a thegwch yn y llysoedd barn.
17. Peidio bwriadu drwg i'ch gilydd. Peidio dweud celwydd ar lw. Dw i'n casáu pethau fel yna,’ meddai'r ARGLWYDD.”
18. Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus:
19. “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Bydd y dyddiau o ympryd yn y pedwerydd, pumed, seithfed a degfed mis yn troi'n ddigwyddiadau hapus – yn bartïon i bobl Jwda ddathlu! Ond rhaid caru'r gwir a byw yn heddychlon!’
20. “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Ryw ddydd, bydd pobl o bob man yn dod yma.