1. Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus:
2. “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Seion. Dw i wedi gwylltio'n lân am beth maen nhw wedi ei wneud iddi.’
3. “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n dod yn ôl i Fynydd Seion, a bydda i'n byw yn Jerwsalem. Bydd Jerwsalem yn cael ei galw "Y Ddinas Ffyddlon", "Mynydd yr ARGLWYDD holl-bwerus", "Y Mynydd Cysegredig".’
4. “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud hefyd, ‘Bydd dynion a gwragedd mewn oed yn eistedd ar sgwariau Jerwsalem unwaith eto – pob un yn pwyso ar ei ffon am eu bod nhw mor hen.
5. A bydd sgwariau'r ddinas yn llawn plant – bechgyn a merched yn chwarae'n braf.
6. Falle fod y peth yn swnio'n amhosibl i'r criw bach ohonoch chi sydd yma nawr,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘ond ydych chi'n meddwl ei fod yn amhosibl i mi?’
7. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dw i'n mynd i achub fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin,
8. a dod â nhw'n ôl i Jerwsalem i fyw. Fy mhobl i fyddan nhw, a bydda i'n Dduw iddyn nhw. Bydda i'n ffyddlon ac yn deg â nhw.
9. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dych chi'n clywed heddiw yr un peth gafodd ei ddweud gan y proffwydi pan gafodd sylfaeni teml yr ARGLWYDD holl-bwerus eu gosod i'w hadeiladu eto, sef, ‘Daliwch ati!
10. Cyn hynny doedd pobl nac anifeiliaid yn ennill dim am eu gwaith! Doedd hi ddim yn saff i bobl fynd a dod. Ro'n i'n gwneud i bawb dynnu'n groes i'w gilydd.
11. Ond nawr mae pethau'n mynd i fod yn wahanol i'r bobl yma sydd ar ôl,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
12. ‘Bydd llonydd i bobl hau cnydau. Bydd ffrwyth yn tyfu ar y winwydden, a'r tir yn rhoi cnwd da. Bydd yr awyr yn rhoi glaw a gwlith i'r ddaear. Dyna sut fydd hi bob amser i'r bobl yma sydd ar ôl!
13. O'r blaen, roeddech chi'n cael eich ystyried yn wlad wedi ei melltithio, Israel a Jwda. Ond dw i'n mynd i'ch achub chi, a byddwch chi'n amlwg yn bobl wedi eu bendithio. Peidiwch bod ag ofn! Daliwch ati!’