Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 14:7-15 beibl.net 2015 (BNET)

7. Bydd yn ddiwrnod unigryw. Yr ARGLWYDD sy'n gwybod pryd. Fydd dim dydd na nos; ac eto bydd hi'n dal yn olau gyda'r nos.

8. Bryd hynny hefyd bydd dŵr glân croyw yn llifo allan o Jerwsalem – ei hanner yn llifo i'r dwyrain, i'r Môr Marw, a'r hanner arall i'r gorllewin, i Fôr y Canoldir. Bydd yn llifo rownd y flwyddyn, haf a gaeaf.

9. A bydd yr ARGLWYDD yn frenin dros y byd i gyd. Yr ARGLWYDD fydd yr unig un, a'i enw e fydd yn cael ei addoli.

10. Bydd y tir i gyd (o Geba i Rimmon, sydd i'r de o Jerwsalem) yn cael ei droi yn wastatir. Ond bydd Jerwsalem gyfan yn sefyll yn uchel yn ei lle – o Giât Benjamin i safle'r Giât gyntaf ac yna ymlaen at Giât y Gornel, ac o Dŵr Chanan-el i'r cafnau gwin brenhinol.

11. Bydd pobl yn byw yno, a fydd y ddinas byth eto'n cael ei melltithio a'i dinistrio. Bydd Jerwsalem yn hollol saff.

12. Ond bydd yr ARGLWYDD yn anfon pla i daro'r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem: Bydd eu cyrff yn pydru tra byddan nhw'n dal ar eu traed. Bydd eu llygaid yn pydru'n eu pennau. Bydd eu tafodau'n pydru'n eu cegau.

13. Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig llwyr yn eu plith. Byddan nhw'n ymladd ei gilydd!

14. Bydd hyd yn oed Jwda yn ymuno yn y ffrwgwd! A bydd cyfoeth y gwledydd yn cael ei gasglu i Jerwsalem – aur, arian a llwythi o ddillad.

15. Bydd pla yn taro'r anifeiliaid yng ngwersylloedd y gelyn – bydd eu ceffylau, mulod, camelod, asynnod, a'r anifeiliaid eraill i gyd yn cael eu taro gan bla.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 14