Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 1:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e'n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo – rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn.

9. Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi'n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe'n ateb, “Gwna i ddangos i ti.”

10. Yna dyma'r dyn oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn siarad, a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi anfon y rhain i chwilio a gweld beth sy'n digwydd ar y ddaear.”

11. A dyma'r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.”

12. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gofyn, “ARGLWYDD holl-bwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoedd bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?”

13. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro'r angel oedd yn siarad â mi.

14. A dyma'r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud,‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Jerwsalem a dros Seion.

15. Ond dw i wedi digio go iawn gyda'r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda'm pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda'i creulondeb!

16. Felly, dw i'n mynd i droi'n ôl at Jerwsalem, a dangos trugaredd ati. Dw i'n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud.

17. Cyhoedda'n uchel eto beth ydy neges yr ARGLWYDD holl-bwerus: ‘Bydd y trefi'n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo'i hun,’”

18. Pan edrychais eto, gwelais bedwar corn anifail.

19. Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r cyrn yma?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn yma ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru Jwda, Israel a Jerwsalem ar chwâl.”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 1