Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 1:14-21 beibl.net 2015 (BNET)

14. A dyma'r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud,‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Jerwsalem a dros Seion.

15. Ond dw i wedi digio go iawn gyda'r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda'm pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda'i creulondeb!

16. Felly, dw i'n mynd i droi'n ôl at Jerwsalem, a dangos trugaredd ati. Dw i'n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud.

17. Cyhoedda'n uchel eto beth ydy neges yr ARGLWYDD holl-bwerus: ‘Bydd y trefi'n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo'i hun,’”

18. Pan edrychais eto, gwelais bedwar corn anifail.

19. Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r cyrn yma?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn yma ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru Jwda, Israel a Jerwsalem ar chwâl.”

20. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dangos pedwar gof i mi.

21. A dyma fi'n gofyn, “Beth mae'r rhain yn mynd i'w wneud?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru pobl Jwda ar chwâl, nes bod neb ar ôl. Ond mae'r gofaint wedi dod i ddychryn gelynion Jwda, a malu cyrn y gwledydd wnaeth ymosod arni a chwalu ei phobl i bob cyfeiriad.”

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 1