Hen Destament

Testament Newydd

Salm 82:3-7 beibl.net 2015 (BNET)

3. “Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a'r amddifad!Sefyll dros hawliau y rhai anghenus sy'n cael eu gorthrymu!

4. Cadw'r rhai sy'n wan a di-rym yn saffa'u hachub nhw o afael pobl ddrwg!”

5. Ond dŷn nhw'n deall dim.Maen nhw'n crwydro yn y tywyllwch,tra mae sylfeini'r ddaear yn ysgwyd!

6. Dywedais, “Duwiau ydych chi”,“meibion y Duw Goruchaf bob un ohonoch.

7. Ond byddwch yn marw fel pobl feidrol;byddwch yn syrthio fel unrhyw arweinydd dynol.”

Darllenwch bennod gyflawn Salm 82