Hen Destament

Testament Newydd

Salm 49:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. Na, mae hyd yn oed pobl ddoeth yn marw!Mae bywyd ffyliaid gwyllt yn dod i ben,ac maen nhw'n gadael eu cyfoeth i eraill.

11. Maen nhw'n aros yn eu beddau am byth;byddan nhw yno ar hyd y cenedlaethau.Mae pobl gyfoethog yn enwi tiroedd ar eu holau,

12. ond dydyn nhw eu hunain ddim yn aros.Maen nhw, fel yr anifeiliaid, yn marw.

13. Dyna ydy tynged y rhai ffôl,a diwedd pawb sy'n dilyn eu syniadau. Saib

14. Maen nhw'n cael eu gyrru i Annwn fel defaid;a marwolaeth yn eu bugeilio nhw.Bydd y duwiol yn teyrnasu drostyn nhw pan ddaw'r wawr.Bydd y bedd yn llyncu eu cyrff;fyddan nhw ddim yn byw yn eu tai crand ddim mwy.

15. Ond bydd Duw yn achub fy mywyd i o grafangau'r bedd;bydd e'n dal gafael ynof fi! Saib

16. Paid poeni pan mae dyn yn dod yn gyfoethog,ac yn ennill mwy a mwy o eiddo.

17. Pan fydd e'n marw fydd e'n cymryd dim gydag e!Fydd ei gyfoeth ddim yn ei ddilyn i lawr i'r bedd!

18. Gall longyfarch ei hun yn ystod ei fywyd– “Mae pobl yn fy edmygu i am wneud mor dda” –

19. Ond bydd yntau'n mynd at ei hynafiaid,a fyddan nhw byth yn gweld golau ddydd eto.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 49