Hen Destament

Testament Newydd

Salm 32:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae'r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfelwedi ei fendithio'n fawr,mae ei bechodau wedi eu symud o'r golwg am byth.

2. Mae'r un dydy'r ARGLWYDD ddim yn dal atii gyfri ei fai yn ei erbyn wedi ei fendithio'n fawr –yr un sydd heb dwyll yn agos i'w galon.

3. Pan oeddwn i'n cadw'n ddistaw am y peth,roedd fy esgyrn yn troi'n frauac roeddwn i'n tuchan mewn poen drwy'r dydd.

4. Roeddet ti'n fy mhoenydio i nos a dydd;doedd gen i ddim egni,fel pan mae'r gwres yn llethol yn yr haf. Saib

5. Ond wedyn dyma fi'n cyfaddef fy mhechod.Wnes i guddio dim byd.“Dw i'n mynd i gyffesu'r cwbl i'r ARGLWYDD” meddwn i,ac er fy mod i'n euog dyma ti'n maddau'r cwbl. Saib

Darllenwch bennod gyflawn Salm 32