Hen Destament

Testament Newydd

Salm 102:17-28 beibl.net 2015 (BNET)

17. Achos mae e'n gwrando ar weddi y rhai sydd mewn angen;dydy e ddim yn diystyru eu cri nhw.

18. Dylai hyn gael ei ysgrifennu i lawr ar gyfer y dyfodol,er mwyn i bobl sydd heb gael eu geni eto, foli'r ARGLWYDD.

19. Bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o'i gysegr uchel iawn,Bydd yn edrych i lawr ar y ddaear o'r nefoedd uchod,

20. ac yn gwrando ar riddfan y rhai oedd yn gaeth.Bydd yn rhyddhau y rhai oedd wedi eu condemnio i farwolaeth.

21. Wedyn bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi o Seion,a bydd e'n cael ei addoli yn Jerwsalem.

22. Bydd pobl o'r gwledydd i gydyn dod at ei gilydd i addoli'r ARGLWYDD.

23. Mae wedi ysigo fy nerth i ar ganol y daith,Mae wedi penderfynu rhoi bywyd byr i mi.

24. “O Dduw, paid cymryd fihanner ffordd drwy fy mywyd! –Rwyt ti'n aros ar hyd y cenedlaethau.

25. Ti osododd y ddaear yn ei lle ers talwm;a gwaith dy ddwylo di ydy'r sêr a'r planedau.

26. Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros.Byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi eu gwisgo.Byddi di'n eu tynnu fel dilledyn, a byddan nhw wedi mynd.

27. Ond rwyt ti yn aros am byth –dwyt ti byth yn mynd yn hen!

28. Bydd plant dy weision yn dal i gael byw yma,a bydd eu plant nhw yn saff yn dy bresenoldeb di.”

Darllenwch bennod gyflawn Salm 102