Hen Destament

Testament Newydd

Salm 102:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, clyw fy ngweddi;gwrando arna i'n gweiddi am help.

2. Paid troi cefn arna ipan dw i mewn trafferthion.Gwranda arna i!Rho ateb buan i mi pan dw i'n galw.

3. Mae fy mywyd i'n diflannu fel mwg,ac mae fy esgyrn yn llosgi fel marwor poeth.

4. Dw i mor ddigalon, ac yn gwywo fel glaswellt.Dw i ddim yn teimlo fel bwyta hyd yn oed.

5. Dw i ddim yn stopio tuchan;mae fy esgyrn i'w gweld drwy fy nghroen.

6. Dw i fel jac-y-do yn yr anialwch;fel tylluan yng nghanol adfeilion.

7. Dw i'n methu cysgu.Dw i fel aderyn unig ar ben tŷ.

8. Mae fy ngelynion yn fy enllibio drwy'r dydd;maen nhw'n fy rhegi ac yn gwneud sbort ar fy mhen.

9. Lludw ydy'r unig fwyd sydd gen i,ac mae fy niod wedi ei gymysgu â dagrau,

10. am dy fod ti'n ddig ac wedi gwylltio hefo fi.Rwyt ti wedi gafael yno i, a'm taflu i ffwrdd fel baw!

11. Mae fy mywyd fel cysgod ar ddiwedd y dydd;dw i'n gwywo fel glaswellt.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 102